Module CXC-4030:
Y Celtiaid: Traethawd Hir
The Celts: Dissertation 2026-27
CXC-4030
2026-27
School of Welsh
60 credits
Module Organiser:
Aled Ll. Jones
Overview
Dysgir y modiwl drwy gyfres o diwtorialau (cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng y myfyriwr a鈥檙 tiwtor) a drefnir fel arfer ar gais y myfyriwr, neu weithiau ar gais y tiwtor. Bydd myfyrwyr yn ymghynghori 芒鈥檜 tiwtoriaid i ddeall a fydd cyfnodau pryd na fydd un o鈥檙 ddau ar gael (yn ystod yr haf). Defnyddir cyfarfodydd cynnar i drafod syniadau, adnoddau a methodolegau, a bydd myfyrwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant yngl欧n a sgiliau ymchwil, i鈥檞 paratoi鈥檔 drylwyr ar gyfer y gwaith ffurfiol o gynllunio a chynhyrchu traethawd ymchwil estynedig yn y maes dan sylw (gwneir hyn gan fanteisio ar ddarpariaeth bwnc-benodol yn yr Ysgol(ion) p/berthnasol). Yn y cyfarfodydd hwyrach trafodir drafftiau o鈥檙 traethawd ei hun. Gellir trafod dros yr ebost yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb os cytunir yn achlysurol mai hyn yw鈥檙 ffordd fwyaf effeithiol o weithio. Bydd nifer y tiwtorialau yn amrywio yn 么l amgylchiadau myfyrwyr unigol; cynghorir nifer o ddeg, ond nid yw hyn o reidrwydd yn uchafswm. Bydd myfyrwyr yn gallu dilyn ymchwil i unrhyw feysydd sy鈥檔 berthnasol i faes 鈥榊 Celtiaid鈥�, a chaiff y gwaith ei oruchwylio gan diwtor gydag arbenigeddau priodol.
Assessment Strategy
-threshold -C/50%: Yn dangos gallu i weithio鈥檔 annibynnol ac ysgrifennu鈥檔 feirniadol; yn crynhoi ysgolheictod perthnasol mewn maes; yn medru adnabod y gwrth-ddadleuon mwyaf amlwg i鈥檙 ddadl a gyflwynir; yn nodi鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 ffynonellau yn gywir; yn cyflwyno safbwynt ac yn dadlau yn glir ac yn dangos gallu i strwythuro trafodaeth estynedig ac arbenigol a鈥檌 chynllunio鈥檔 rhesymegol gan ddangos gafael ar dermau technegol a geirfa鈥檙 ddisgyblaeth. Medru ysgrifennu Cymraeg sydd gan fwyaf yn gywir.
-good -B/60%: Yn dangos gallu da i weithio鈥檔 annibynnol a gallu da i ysgrifennu鈥檔 feirniadol: yn llwyddo i gyflwyno barn bersonol, annibynnol a chytbwys er nad yw bob tro yn archwilio neu yn adnabod eu harwyddoc芒d; yn dangos dealltwriaeth feirniadol o鈥檙 ysgolheictod perthnasol mewn maes; yn cyflwyno safbwynt ac yn dadlau yn glir ac yn rhesymegol. Dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa鈥檙 ddisgyblaeth a dangos gafael dda ar gystrawen a theithi鈥檙 Gymraeg.
-excellent -A/70%: Dangos gallu datblygedig i weithio鈥檔 annibynnol ac i ysgrifennu鈥檔 feirniadol; gwaith o safon y gellid (gyda m芒n newidiadau) ei gyhoeddi mewn cylchgrawn arbenigol perthnasol; yn arddangos dealltwriaeth feirniadol o ysgolheictod perthnasol ac yn cyflwyno barn aeddfed a dadlennol yng nghyd-destun yr ysgolheictod hwnnw. Yn cyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus; yn dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth; yn dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa鈥檙 ddisgyblaeth; yn dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi鈥檙 Gymraeg.
Learning Outcomes
- Deall cysyniadau a thechnegau a ddefnyddir yn gyfredol yn y maes dewisol.
- Medru darllen testunau cynradd yn feirniadol, gyda golwg ar eu cynnwys a鈥檜 cyd-destun (a鈥檜 ffurf, lle bo hynny鈥檔 briodol), ac i ddefnyddio鈥檙 dystiolaeth a geir felly i gefnogi a datblygu dadl yn argyhoeddiadol.
- Medru dewis methodoleg neu fethodolegau sy鈥檔 briodol i鈥檙 pwnc / pynciau dan sylw, a chymhwyso honno / y rheiny yn gywir.
- Medru fframio damcaniaethau鈥檔 fedrus, a鈥檜 pwyso a鈥檜 mesur yn sgil gwrth-ddadleuon a thystiolaeth groes.
- Medru strwythuro dadl gymhleth ar ffurf traethawd, gan ddefnyddio ac ymgorffori ystod o dystiolaeth gynradd ac eilaidd yn argyhoeddiadol a chywir.
- Medru ysgrifennu traethawd academaidd yn unol 芒 chonfensiynau ffurfiol y maes dan sylw.
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Hir - Dissertation
Weighting
100%
Due date
16-09-2023