Dodrefn a Deuyddiau Dodrefnu - Diogelwch T芒n
Dodrefn
Rhaid i'r holl ddodrefn sydd mewn llwybrau dianc a thramwyfeydd, mannau cymunedol, adeiladau/mannau trwyddedig ac ym mhob adeilad preswyl gydymffurfio 芒 Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau Dodrefnu (Diogelwch T芒n) sy'n ei gwneud yn ofynnol llenwi a gorchuddio'r deunyddiau gan gyflawni rhai safonau sy'n ymwneud 芒 th芒n a mynd ar d芒n, ac sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol labelu'r eitem a / neu ei nodi'n unol 芒 hynny.
Rhaid i unrhyw orchudd ar ddodrefn llawn sbwng fod mewn cyflwr da er mwyn lleihau perygl t芒n, ac felly mae'n bwysig bod y Colegau / yr Adrannau yn archwilio'r dodrefn fel rhan o'r archwiliadau cyffredinol ar y gweithle, gan drefnu i waredu / atgyweirio / newid unrhyw ddodrefn a gaiff eu difrodi ar unwaith.
Mae'n bosib bod dodrefn clustogog a wnaed cyn i鈥檙 rheoliadau ddod i rym yn cynnwys llenwadau sbwng a all fynd ar d芒n yn hawdd, llosgi鈥檔 danbaid a chynhyrchu mwg gwenwynig. Felly rhaid sicrhau bod label ar y dodrefn i ddweud eu bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 rheoliadau. Os nad oes label ar y ddodrefn dylid eu rhoi mewn mannau lle mae'r perygl t芒n yn isel, er enghraifft: mewn ystafelloedd cae毛dig, megis swyddfeydd ac yn y blaen.
Llenni a Gorchuddion
Rhaid labelu'r llenni a'r gorchuddion sydd ar lwybrau dianc a thramwyfeydd, mannau cymunedol, adeiladau/mannau trwyddedig, gan gynnwys gorchuddion llwyfan, er mwyn nodi eu bod wedi eu gwneud 芒 defnydd sy'n gwrthsefyll t芒n neu'u bod wedi eu trin 芒 chemegau sy'n gwrthsefyll t芒n. Rhaid dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr neu鈥檙 cyflenwyr wrth lanhau llenni a gorchuddion sy'n gwrthsefyll t芒n.
Efallai bod llenni a gorchuddion (gan gynnwys eitemau'r set ac addurniadau llwyfan) nad ydynt wedi eu dilysu'n rhai sy'n gwrthsefyll t芒n, yn addas ar gyfer triniaeth broffesiynol neu i chi eu trin drosoch eich hun. Rhaid labelu unrhyw lenni a gorchuddion a gaiff eu trin yn y modd yma er mwyn nodi beth oedd y driniaeth a'r dyddiad.