GWNEUD CAIS AM GWRS ISRADDEDIG
Sut i wneud cais
I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i chi wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.
Gallwch wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofiwch y bydd yr un ffurflen gais a'r un datganiad personol yn mynd i'r 5 dewis.
UCAS yw鈥檙 Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i鈥檙 brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna鈥檔 cael ei drosglwyddo i鈥檙 prifysgolion a restrwyd.
C么d UCAS Prifysgol 精东传媒 yw B06.
Pryd i wneud cais
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gallwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith.
Mynediad 2027
Ar gyfer mynediad 2027, dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 13 Ionawr 2027, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar 么l y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 25 Chwefror a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Meddygaeth, yw 15 Hydref 2026.
Arweiniad 7 cam ar sut i wneud cais am gwrs israddedig
To get started, you鈥檒l need to set up your UCAS Hub account with UCAS (University and Colleges Admissions Service) 鈥� the organisation that manages applications to all UK universities. You can start your application from UCAS Hub.
Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael ar wefan y Brifysgol.
Dylid ystyried yr isod wrth ddewis eich cwrs a鈥檆h prifysgol:
- Beth yw鈥檙 modiwlau gofynnol a dewisol sydd ar gael?
- Ydych chi鈥檔 gallu gwneud blwyddyn dramor neu blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o鈥檙 cwrs?
- Ydych chi鈥檔 hoffi鈥檙 llety?
- Ydi鈥檙 bywyd myfyriwr yn apelio atoch yn nhermau'r clybiau a chymdeithasau sydd ar gael, lleoliad a chyfleusterau?
Yn eich cyfrif UCAS, gallwch safio'r cyrsiau rydych 芒 diddordeb ynddynt trwy glicio ar yr icon si芒p calon ar wefan UCAS. Bydd y rhestr yma yn cael ei gadw mewn un lle fel eich bod yn gallu mynd yn 么l i edrych arnynt fel y mynnwch.
Cewch wneud hyd at 5 cais. Gall hynny fod yn hyd at 5 cwrs gwahanol i鈥檙 un brifysgol neu'r un cwrs mewn hyd at 5 prifysgol wahanol.
Gwnewch hyn cyn gynted 芒 phosib ym Mehefin / Gorffennaf fel eich bod yn gallu troi at ymchwilio eich opsiynau cwrs. Pan fyddwch wedi creu eich rhestr fer, byddwch wedyn yn barod i wneud eich cais.
Fel rhan o鈥檆h proffil ar UCAS, bydd angen i chi ysgrifennu eich datganiad personol. Mae hyn yn rhan bwysig o鈥檙 broses ymgeisio.
Dyma eich cyfle i berswadio鈥檙 brifysgol y dylent eich derbyn chi ar y cwrs. Cewch 4,000 llythyren i egluro pam rydych wedi dewis y cwrs a鈥檙 sgiliau neu brofiad sydd gennych sy鈥檔 hanfodol ar gyfer astudio ar lefel prifysgol. Mae 3 cwestiwn yn cael ei ofyn sydd yn eich helpu drwy'r broses o ysgrifennu'ch datganiad personol.
I ysgrifennu datganiad personol gwerth chweil, dylech fod efo dealltwriaeth o鈥檙 cwrs a鈥檙 pwnc byddwch yn ei astudio. Cofiwch eich bod yn ysgrifennu un datganiad personol ar gyfer eich 5 dewis felly mae angen gwneud yn saff bod eich cyrsiau yn rhai tebyg a sicrhau nad ydych yn cyfeirio at unrhyw un o鈥檙 cyrsiau na unrhyw brifysgol yn benodol yn y datganiad personol.
Ewch dros eich cais a gofynnwch i rywun arall edrych drosto hefyd - gwnewch yn si诺r eich bod wedi gwneud cais am y cwrs cywir yn y brifysgol gywir.
Byddwch angen geirda gan eich athro/athrawes, cynghorydd neu rywun sy鈥檔 eich adnabod yn academaidd neu鈥檔 broffesiynol.
Pan rydych yn hapus gyda鈥檆h cais, talwch ffi UCAS ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd a phwyswch y botwm i gyflwyno eich cais!
Bydd yr holl brifysgolion rydych wedi cyflwyno cais iddynt yn ystyried eich cais ac yn ymateb 鈥� fel arfer gyda cynnig amodol (y graddau mae鈥檙 brifysgol isio chi eu cyflawni) neu cynnig diamod.
Gwneud cais ar gyfer Meddygaeth
Mae ceisiadau meddygaeth yn cau'n gynharach na cheisiadau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol eraill, felly gwnewch yn si诺r eich bod yn gwirio'r dyddiad ac yn gwneud cais mewn pryd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau meddygaeth (ar gyfer mynediad yn 2027) yw 15 Hydref 2026.
Rhaid i chi sefyll Prawf Cymhwysedd Clinigol Prifysgol (UCAT) fel rhan o'ch cais er mwyn cael eich ystyried ar gyfer gradd Meddygaeth.
Rhaid i chi archebu eich prawf UCAT cyn 16 Medi 2026.
Y dyddiad olaf i sefyll eich prawf yw 24 Medi 2026.
Gwahoddir ymgeiswyr sy鈥檔 cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad diwedd mis Tachwedd (ar 么l dyddiad cau ceisiadau UCAS ym mis Hydref). Cynhelir y cyfweliadau rhwng 7-11 Rhagfyr. Anfonir gwahoddiadau trwy e-bost gyda dolen i'n system archebu ar-lein.
Nodwch os gwelwch yn dda: le mae ymgeisydd wedi'i wahodd i gyfweliad, bydd 鈥榙yddiad ffug鈥� yn cael ei gyhoeddi drwy UCAS. Mae hyn yn ofyniad gan UCAS ac NID dyddiad eich cyfweliad yw hwn. Bydd y cynnig yn nodi yn glir bod yn rhaid i chi ddiystyru鈥檙 dyddiad a ddarparwyd ac y byddwn yn cysylltu 芒 chi drwy e-bost yn fuan.
Dylai ymgeiswyr dderbyn yr e-bost y diwrnod canlynol yn uniongyrchol o Prifysgol 精东传媒 yn eu gwahodd i ddewis eu slot cyfweld eu hunain. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn gwirio eu mewnflwch yn rheolaidd, gan gynnwys eu post sothach, ac yn archebu eu slot cyfweliad cyn unrhyw ddyddiad cau a allai fod wedi'i nodi. Os nad ydych wedi derbyn e-bost o fewn 48 awr i'r gwahoddiad trwy UCAS, rhaid i ymgeiswyr anfon e-bost i derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk.
Os na fyddwch yn dilyn i fyny a/neu'n archebu eich slot cyn y dyddiad cau, ni allwn wneud trefniadau eraill.
Ar 么l i ymgeisydd drefnu cyfweliad, ni ellir newid y dyddiad/amser fel arfer, felly gwiriwch 芒'ch dewisiadau eraill i osgoi gwrthdaro rhwng dyddiadau (cyhoeddir dyddiadau cyfweliad ymlaen llaw yn aml).
Cynhelir y cyfweliadau ar gampws Prifysgol 精东传媒 a byddant ar ffurf Cyfweliadau Bach Lluosog wyneb yn wyneb (Multiple Mini Interviews). Mae MMIs yn cynnwys nifer o orsafoedd trafod a bydd cwestiynau i鈥檞 trafod yn archwilio rhinweddau a phriodoleddau personol a ystyrir yn bwysig i feddygon.
Bydd sg么r terfynol yn cael ei bennu drwy gyfuno'r sgorau a gyflawnwyd ym mhob gorsaf drafod.
Rhaid datgan unrhyw amgylchiadau lliniarol hysbys a allai effeithio ar berfformiad ymgeisydd mewn cyfweliad wrth drefnu鈥檙 slot cyfweliad er mwyn caniat谩u ar gyfer addasiadau rhesymol.
Os bydd salwch neu amgylchiadau lliniarol eraill ar ddiwrnod y cyfweliad fydd yn rhwystro ymgeisydd rhag cymryd rhan yn y cyfweliad, rhaid i鈥檙 ymgeisydd gysylltu hysbysu'r T卯m Derbyniadau (medicineadmissions@bangor.ac.uk) i roi gwybod iddynt cyn amser y cyfweliad. Trefnir dyddiad arall i鈥檙 cyfweliad, os yn bosib, ond ni ellir gwarantu hyn.
Rhaid i ymgeisydd ddod ag unrhyw bryderon am y cyfweliad i sylw'r T卯m Derbyniadau ar ddiwrnod y cyfweliad.
Ni wneir addasiadau 么l-weithredol ac ni ellir ystyried amgylchiadau lliniarol yn 么l-weithredol.
Bydd methu 芒 dod i gyfweliad a drefnwyd heb resymau eithriadol yn arwain at wrthod eich cais ac ni chewch gynnig lle ar y rhaglen feddygaeth.
Dim ond ar 么l cwblhau pob cyfweliad y gwneir cynigion.
Mae'r Gr诺p Derbyn yn cyfarfod 芒 Deon Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ac Arweinydd y Rhaglen cyn gynted 芒 phosibl ar 么l cynnal pob cyfweliad i bennu'r trothwy ar gyfer cynigion yn seiliedig ar sg么r cyfweliad.
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus trwy UCAS
Os cynigir lle i chi, byddwch yn cael cynnig amodol neu ddiamod.
- Mae Cynnig Amodol yn golygu y bydd angen i chi fodloni amodau penodol - fel arfer mae hyn yn golygu cyflawni graddau penodol yn eich arholiadau. Bydd y rhain yn cael eu datgan yn glir yn y cynnig.Mae cynnig diamod yn golygu eich bod eisoes wedi bodloni'r amodau y gofynnwn amdanynt.
- Mae Cynnig Diamod yn golygu eich bod wedi gwarantu eich lle ar y cwrs. Mae gennych eisoes raddau digonol, cymwysterau neu brofiad i fodloni eu meini prawf derbyn.
Pan fydd yr holl brifysgolion ar eich rhestr wedi gwneud penderfyniadau, bydd UCAS yn cysylltu 芒 chi gyda dyddiad cau ar gyfer eich atebion. Dylech wirio'r adran 'Your choices' yn eich cais UCAS a nodi'r penderfyniadau yno.
12 Mai 2025 鈥� Ceisiadau UCAS ar agor ar gyfer mynediad 2027
Gorffennaf 2026 鈥� Medi 2025 鈥� Profion UCAT
1 Medi 2026 鈥� Gellir cyflwyno ceisiadau UCAS
15 Hydref 2026 鈥� Dyddiad cau UCAS ar gyfer ceisiadau Meddygaeth
15 Hydref 2026 鈥� Rhagfyr 2026 鈥� Cyflwyno trawsgrifiadau TGAU i Adran Derbyniadau Prifysgol 精东传媒 os nad ydych eisoes wedi eu hanfon
Diwedd Tachwedd 2026 鈥� Cyhoeddi rhestr fer a gwahoddiadau i gyfweliadau
7-11 Rhagfyr 2026 鈥� Cyfweliadau MMI
Mawrth 2027 鈥� Cyhoeddi cynigion UCAS i ymgeiswyr llwyddiannus
Awst 2027 鈥� Cadarnhad - Diwrnod Canlyniadau Lefel A
Awst/Medi 2027 鈥� Dechrau'r flwyddyn academaidd
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?
Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...
Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...