Gwybodaeth i Staff a Myfyrwyr
Cyfrifoldebau
Mae gan bob aelod staff a myfyriwr rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a鈥檜 diogelwch eu hunain ac am ddiogelwch eraill y gall eu gweithrediadau neu eu diffyg gweithredu effeithio arnynt. Rhaid iddynt hefyd gydymffurfio 芒鈥檙 rheolau a鈥檙 rheoliadau a nodir ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol a pholis茂au a dulliau gweithredu isradd a chysylltiedig eraill.
Y mae鈥檔 ddyletswydd gyfreithiol ar yr holl staff a鈥檙 myfyrwyr tra鈥檜 bod yn y gwaith neu鈥檔 astudio yn y Brifysgol, a thra鈥檜 bod i ffwrdd o鈥檙 Brifysgol ar fusnes y Brifysgol neu weithgarwch cysylltiedig, i wneud y canlynol:
- Ymddwyn yn gyfrifol a chymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a鈥檜 diogelwch eu hunain ac unigolion eraill y gall eu gwaith neu eu gweithgarwch effeithio arnynt.
- Cydweithredu 芒鈥檙 holl staff a鈥檙 myfyrwyr i鈥檞 galluogi i gyflawni eu dyletswyddau iechyd a diogelwch eu hunain.
- Rhoi gwybod i staff goruchwylio am unrhyw sefyllfa, ymarfer neu ddull gweithredu gwaith y maent yn ei amau sy鈥檔 beryglus o bosibl.
Rhoi gwybod am yr holl ddamweiniau a digwyddiadau i staff goruchwylio neu unigolyn/unigolion priodol eraill.
-
Defnyddio, ond nid camddefnyddio, dillad, offer neu ddeunyddiau gwarchodol a ddarperir ar gyfer iechyd a diogelwch.
-
Cydymffurfio 芒 rheolau, polis茂au a chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch a roddir iddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
Defnyddio peiriannau neu offer yn y modd y cawsant eu llunio ar ei gyfer, ac yn unol 芒鈥檙 rhagofalon diogelwch priodol.
Gall unrhyw un sy鈥檔 mynd yn groes i鈥檙 gofynion hyn fod yn agored i achosion disgyblu鈥檙 Brifysgol a/neu gamau cyfreithiol posibl gan yr Awdurdodau sy鈥檔 Gorfodi.