A wnewch chi bleidleisio dros 鈥榝wydydd Hyll鈥�?
Wnaethoch chi brynu 鈥榖wydydd hyll鈥� o鈥檙 Siop dros dro Bwydydd Hyll ym Mangor yn ddiweddar? Ydych chi鈥檔 meddwl ei fod yn syniad busnes gwych?
Mae鈥檙 fenter a fu鈥檔 llwyddiannus dros ben, ac a drefnwyd gan fyfyrwyr o Brifysgol 精东传媒, bellach wedi cyrraedd y 10 uchaf mewn cystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr yn y DU.
Mae鈥檙 鈥橲iop Bwydydd Hyll鈥� wedi ei rhoi ar y rhestr-fer ar gyfer y rownd pleidlais boblogaidd yng Nghystadleuaeth 鈥�60 second pitch Santander Universities.
Dan Taylor a Rhi Willmot, myfyrwyr yn yr Ysgol Seicoleg a fu, gyda鈥檌 gilydd, yn gyfrifol am reoli鈥檙 project, yw鈥檙 unig rai o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth. Felly os oeddech chi wedi mwynhau Bwydydd Hyll yna ewch i wefan y gystadleuaeth: neu i fwrw鈥檆h pleidlais drostynt cyn 27 Mai!
Bydd pleidleisio yn helpu Santander Universities i ddethol yr enillydd a fydd wedyn yn derbyn cefnogaeth busnes
Dan Taylor yn dangos un o鈥檙 bagiau 鈥榗awl mewn bag鈥� yn y siop ac arian.
Rhoddodd y Siop Bwydydd Hyll, a fu鈥檔 agored drwy fis Mawrth, gyfle i鈥檙 bwydydd hyn a wrthodwyd gan archfarchnadoedd gael eu defnyddio rhag mynd i鈥檙 domen sbwriel.
Roedd y Siop hefyd yn gwerthu smwddis a chawl mewn bag, a oedd yn cynnwys popeth rydych eu hangen i wneud eich cawl neu eich lobsg贸ws eich hun gartref. Gydag ymgyrch hyrwyddo ar-lein ddeniadol yn gefn i鈥檙 project, roedd y Siop yn llwyddiant ysgubol. Mae鈥檙 Siop yn gobeithio ail agor yn gryfach fyth yn yr hydref.
Gyda Dan a Rhi鈥檔 rheoli鈥檙 project, rhoddodd y Siop gyfle i nifer o fyfyrwyr y Brifysgol ennill profiadau gwerthfawr.
Eglurodd Lowri Owen o broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
"Mae Prifysgol 精东传媒 yn annog ei myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd ac ystyried yr opsiwn o fod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain. Er na fyddant i gyd yn mynd i鈥檙 maes diwydiant adwerthu, mae cymryd rhan yn y project hwn yn rhoi blas iddynt o redeg eu busnes eu hunain a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae cyflogwyr eisiau eu gweld."
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas 精东传媒 am roi'r cyfle i ni ddefnyddio'r siop dros dro," ychwanegodd Lowri.
Meddai Dan Taylor, myfyriwr Meistr 么l-radd:
"Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld faint o gefnogaeth gawsom ni yn ystod mis Mawrth, ac mae鈥檙 gefnogaeth wedi parhau tra bod y siop ar gau. Mae鈥檙 cyfle i agor siop wedi agor ein llygaid i pa mor bwysig yw hi i gydweithio efo鈥檙 gymuned i ddatrys materion cyfredol. Mae Cystadleuaeth Santander Universities wedi rhoi llwyfan i ni, ac wedi newid yn sylweddol yr hyn mae 鈥榟yll鈥� yn ei olygu mewn gwirionedd.
Meddai Rhi Willmot:
鈥淩oedd datblygu鈥檙 Siop Bwydydd Hyll o fod yn freuddwyd i fod yn ffaith yn brofiad gwych. Mae gweld yr ymateb brwdfrydig gan gymuned 精东传媒 wedi bod yn anghredadwy, a
gyda chymorth gallem barhau i wneud pethau mawr yn enw 鈥榟yll鈥�.鈥�
Cefnogir rhaglen Byddwch Fentrus Prifysgol 精东传媒 gan gyllid o Ganolfan Ranbarthol Gogledd Orllewin Cymru Llywodraeth Cymru a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015