Beth sydd yn y gwaed?
Mewn byd llawn cyfleoedd, mae mwy o lwybrau nag erioed i鈥檞 troedio wrth gamu i mewn i鈥檙 byd gwaith. Ond i rai, mae gormod o ddewis yn ei gwneud hi鈥檔 anodd i bennu鈥檙 cyfeiriad i鈥檞 ddilyn fel gyrfa, gan adael sawl un ar goll yn y byd mawr.
Ond a yw鈥檙 ateb i鈥檙 cwestiwn yn gorwedd yn ein gwaed?
Mae arbenigydd o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, .
Yn y gyfres, sy鈥檔 dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy鈥檔 helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i鈥檞 galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o鈥檙 arbenigwyr ar y rhaglen. Mae鈥檔 llunio proffil seicolegol o鈥檙 unigolion er mwyn asesu eu cryfderau seicolegol. Gyda鈥檌 phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna鈥檔 awgrymu meysydd gwaith delfrydol i鈥檙 unigolyn hwnnw.
"Mae hi鈥檔 anodd iawn i bobl ifanc ddewis eu gyrfa ar ddechrau eu bywydau," meddai Catrin Heledd sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 gyfres ynghyd ag Ifan Jones Evans, "blynydde鈥檔 n么l, pan o鈥檔 i鈥檔 ifanc, roedd y byd yn llawer iawn llai cymhleth. Dwi鈥檔 teimlo mor hen yn siarad fel 鈥榥a, ond ma鈥� fe鈥檔 wir!"
Ychwanegodd Catrin: "Mae pawb angen cyflog. Ond, y gwir amdani yw dy fod di鈥檔 mynd i fod yn gwneud dy swydd am amser hir, hir iawn gobeithio. Felly, mae cael swydd wyt ti鈥檔 ei fwynhau yr un mor bwysig 芒 chael arian yn dod i mewn. Y gobaith yw y bydd Yn y Gwaed yn helpu carfan fach o bobl i ddod o hyd i鈥檞 maes gwaith delfrydol, ac o bosib, yn newid bywydau."
Mae Tim wedi treulio blynyddoedd yn astudio beth sydd angen ar bobl i lwyddo. I ddeall sut i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer ein dyfodol, mae hi鈥檔 bwysig, yn 么l Tim, i fod yn fwy ymwybodol o bwy ydym ni.
Meddai Tim: "Gall rhywun fod mewn gyrfa am 20 mlynedd, ond yna鈥檔 chwythu plwc gan nad ydyn nhw'n gwneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud mewn gwirionedd. Dydyn nhw ddim yn gwneud yr hyn sydd yn eu gwaed.
"Pan 鈥榙yn ni鈥檔 siarad am yr hyn sydd yn ein gwaed, rydym ni wir yn siarad am bwy ydyn ni. Rydym yn wneuthuriad o'n gorffennol, ein adeiladwaith genetig ac ein magwraeth."
Ym mhennod gyntaf y gyfres, bydd y t卯m yn helpu Catrin McLellan, sy鈥檔 21 oed o Abergwili, Caerfyrddin, a Llyr Hughes, sy鈥檔 20 oed o Gaergeiliog, Ynys M么n. Mae鈥檙 ddau ar goll yn eu gyrfa, ac yn chwilio am help llaw i鈥檞 harwain ar lwybr gyrfaol.
Meddai Catrin McLellan: "S鈥檇im clem 鈥榙a fi o gwbl beth fi moyn gwneud 鈥榙a mywyd i. Dwi鈥檔 gwybod bod pethau bigger and better mas 鈥榥a, a fi鈥檔 barod i fynd i ffindio nhw."
Amaethu, nyrsio, peirianneg, gweithio yn y pyllau glo 鈥� mae llond lle o hanes i鈥檞 ddarganfod yn y goeden deulu, a bydd pob unigolyn yn mynd ar daith bersonol wrth iddynt ddarganfod mwy am eu hunain wrth dyrchu mewn i鈥檞 meddwl ac i hanes eu teulu.
Gwyliwch Yn y Gwaed, bob nos Iau ar S4C.
Yn y Gwaed
Nos Iau 12 Medi 8.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael
Ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Avanti ar gyfer S4C
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019