Dunn-a gamp! Emily yn llwyddo yn Awstralia
Mae myfyrwraig o Brifysgol 精东传媒 bellach yn rhif 24 yn y byd yn dilyn ei llwyddiant yn ras yr UCI Gran Fondo World Championships yn Awstralia y mis diwethaf 鈥� a hithau ond yn beicio ers 2013.
Lwyddodd Emily Louise Dunn, 22 o Ddyfnaint a myfyrwraig 么l-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarferol, i hawlio鈥檌 lle yn y ras yn dilyn cwblhau ras y Tour of Cambridgeshire Gran Fondo ym mis Mehefin. Ar 么l iddi gwblhau鈥檙 ras honno ymhlith 25% uchaf ei chategori oed, cafodd Emily ei gwahodd i gymryd rhan yn y pencampwriaethau byd yn ninas Perth, Awstralia, ym mis Medi eleni.
Emily Dunn
Roedd ras y pencampwriaethau byd yn seiliedig ar lwybr 105km a oedd yn cynnwys 4000 troedfedd o esgyn, gan olygu ei bod yn her aruthrol i鈥檙 corff ac i鈥檙 meddwl. Yn ogystal 芒 hyn, Emily oedd ymgeisydd ieuengaf categori鈥檙 Merched 19-34 oed ac roedd yn rasio yn erbyn rhai o feicwyr amatur gorau鈥檙 byd. Ar 么l cwblhau鈥檙 ras mewn 3:40:17, mae Emily wedi sicrhau safle 24 yn y byd yn rhestr amatur y Gran Fondo.
Gan edrych yn 么l y profiad, meddai Emily:
鈥楻oedd yr UCI Gran Fondo World Championships yn anhygoel. Roedd dros ddeugain o wledydd wedi eu cynrychioli yno, mewn nifer o gategor茂au gwahanol ac roedd y ras ei hun yn heriol dros ben. Roedd cael y cyfle i rasio yn erbyn amaturiaid gorau鈥檙 byd yn brofiad bythgofiadwy.鈥�
Mae Emily bellach yn 么l ym Mangor ac wedi dechrau ar radd MRes ym maes pibellau gwaed iachus ac mae鈥檔 dderbynydd ysgoloriaeth Women in Science Athena Swan.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016