Prifysgol 精东传媒 yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Yr Is-ganghellor yn cyflwyno tarian Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn i Victoria a Joe.Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi鈥檜 henwi鈥檔 enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol 精东传媒, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi鈥檌 rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Victoria (21) yn fyfyrwraig Hanes yn yr . Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd St Peter's RC High School and Sixth Form Centre yn Gloucester.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Dinbych, mae Joe yn fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon yn yr .
Derbyniodd y ddau darian a gwerth 拢50 o docynnau Amazon fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol 精东传媒 yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae鈥檔 eu paru 芒 myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i鈥檞 galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath yn y wlad.
Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn helpu鈥檙 myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a鈥檙 Brifysgol. Gallant gyfeirio鈥檙 myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
鈥淢ae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a鈥檜 cyfraniad at fywyd Prifysgol 精东传媒 yn amhrisiadwy,鈥� meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.
鈥淢ae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo鈥檙 myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i鈥檞 myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau鈥檔 parhau trwy鈥檙 Brifysgol,鈥� ychwanegodd.
Enwebwyd Victoria a Joe am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y meant yn gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Enwebwyd Joe am ei fod yn hynod o groesawgar a bob tro鈥檔 trio鈥檌 orau i ateb unrhyw gwestiynau a datrys unrhyw broblem. Dywedodd un o鈥檙 enwebwyr: "Rwy'n gwybod na fyddwn wedi gallu wynebu鈥檙 flwyddyn gyntaf heb y cymorth yr oedd ar gael ganddo."
Ar 么l derbyn ei wobr, dywedodd Joe: "Roeddwn eisiau bod yn Arweinydd Cyfoed gan fy mod eisiau helpu myfyrwyr blwyddyn gyntaf deimlo鈥檔 gartrefol, oherwydd yn fy mlwyddyn gyntaf cefais ddechrau sigledig a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un arall gael yr un profiad. Rwy'n hynod o falch o fod yn rhan o'r cynllun Arweinwyr Cyfoed a gychwynnodd ym Mangor a hefyd bod yn rhan o gr诺p sy'n gofalu am fyfyrwyr. Mae wedi bod yn brofiad gwych."
Cafodd Victoria ei henwebu am ei bod wedi annog myfyrwyr i ymuno 芒 chlybiau a chymdeithasau, rhoi鈥檙 hyder i fyfyrwyr archwilio 精东传媒 a gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd ar gael. Roedd hi hefyd mewn cysylltiad trwy gydol y flwyddyn ac wedi cysylltu gyda myfyrwyr sawl gwaith cyn iddynt ddod i Fangor ac yn ateb llawer o gwestiynau cyn iddynt gyrraedd. Meddai un enwebwr , "yn ystod cyfnod yr arholiadau yr oedd yn sicrhau fy mod yn iawn ac yn fy nghynghori am ffynonellau i gael cymorth ychwanegol."
Wrth ei bodd gyda'i wobr, dywedodd Victoria: "Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, cefais ofal a chymorth gan Arweinwyr Cyfoed ac yr oeddwn eisiau bod yn rhan o hynny. Mae ein hysgol mor agos; rwyf wrth fy modd yn ymuno 芒 gweithgareddau a chwrdd 芒 holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a hefyd cadw mewn cysylltiad 芒 nhw trwy gydol y flwyddyn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014