Swyddfa'r Wasg
惭补别鈥檙 Canllawiau ar weithio gyda鈥檙 cyfryngauyn cynnig egwyddorion arweiniol am pryd, sut a pham y dylech ymgysylltu 芒鈥檙 cyfryngau newyddion, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael gan swyddfa鈥檙 wasg.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol isod:
Mae'r Cyfryngau’n gallu bod yn ddefnyddiol i greu ymwybyddiaeth am y Brifysgol a'i gwaith. Mae posibiliadau niferus o ran cyhoeddi stor茂au, gan gynnwys:
- papurau wythnosol lleol a'r papurau rhanbarthol dyddiol, sy'n bwysig o ran rhoi gwybod i'r gymuned leol am weithgareddau'r Brifysgol
- papurau cenedlaethol
- cylchgronau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
- blogiau a sianelau cyfryngau cymdeithasol
- rhaglenni teledu a radio
- safleoedd newyddion ar y we (gweler The Conversation isod)
Mae Swyddfa’r Wasg y Brifysgol yn darparu newyddion a gwasanaethau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Fel aelodau staff, gallwn eich helpu i hyrwyddo a chyhoeddi stor茂au a gweithgareddau eich ysgol drwy nifer o gyfryngau gwahanol. Cysylltwch 芒 Swyddfa’r Wasg am gymorth i gynllunio'ch stori. Gorau po gyntaf y gwnewch chi adael i ni wybod am stor茂au er mwyn cael gwell cyfle o gael sylw'r wasg - gweler PDF ‘Gwneud Argraff’.
Beth yw deunydd stori dda?
Mae stor茂au llwyddiannus yn y cyfryngau yn dweud mwy wrthym amdanom ein hunain a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau: yn gyffredinol mae ganddynt ddiddordeb dynol gydag elfen 'newydd'. Mae cyfleoedd i greu cysylltiadau cyhoeddus da yn cynnig eu hunain mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd:
Ymchwil
Mae'n bosibl creu stor茂au am waith neu gynlluniau ymchwil:
- Pan gaiff grantiau ymchwil eu dyfarnu; gall sylw cynnar yn y cyfryngau fod yn ddefnyddiol os oes angen cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil neu’r project聽 (gan gofio y gallai gormod o fanylion ragfarnu’r canlyniadau). (Gweler ‘A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?’)
- Os bydd yr ymchwil yn cynnwys arbrofion diddorol neu anarferol a allai hawlio sylw'r cyhoedd, neu a fyddai'n gwneud stori weledol dda. (Gweler ‘Disgyblion ysgol yn ymgolli mewn celf mewn project Dementia a’r Dychymyg’)
- Pan fydd yr ymchwil wedi'i chwblhau - er y dylid cael s锚l bendith gan y corff ariannu a’r/neu’r partneriaid cyn mynd at y wasg. (Gweler ‘Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd’)
Newyddion Myfyrwyr
Mae'n bosibl creu stor茂au am brojectau myfyrwyr unigol a allai fod yn anarferol neu'n ddiddorol, neu am lwyddiannau gan fyfyrwyr unigol. (Gweler ‘Fideo feiral gan fyfyrwyr o Fangor’)
Gweithgareddau eraill
Os caiff eich papur ei dderbyn gan gyfnodolyn academaidd pwysig rhowch wybod i Swyddog y Wasg 聽i drafod y posibilrwydd o gyhoeddi datganiad i'r wasg.
Bydd Swyddog y Wasg yn falch o gael gwybod am ddulliau addysgu arloesol, unrhyw ddigwyddiadau o bwys sy'n cael eu trefnu gan eich ysgol neu'ch adran, ac unrhyw ymwelwyr nodedig 芒'r ysgol.
Cyfleoedd Eraill
Mae yn ffynhonnell annibynnol o newyddion a barn sy’n cael eu casglu o’r聽 gymuned ymchwil academaidd a’i ddarparu’n uniongyrchol i'r cyhoedd. Mae eu trwydded greadigol gyffredin yn galluogi cyfryngau eraill i rannu eu cynnwys, gan ddod ag ef i sylw cynulleidfa ehangach.
Mae eu t卯m o olygyddion proffesiynol yn gweithio gyda'r Brifysgol ac arbenigwyr sefydliad ymchwil i ddatgloi eu gwybodaeth ar gyfer ei defnyddio gan y cyhoedd yn ehangach. Os oes gennych syniad am erthygl yr ydych am ei hysgrifennu ar gyfer The Conversation, cysylltwch 芒’r Swyddog Cefnogi Ymchwil yn eich Coleg neu 芒 Swyddog y Wasg, neu cysylltwch 芒 Golygydd Cymru The Conversation, neu priodol.
Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn rhoi erthygl 500 gair i dudalen Universities y Daily Post bob dydd Mawrth ac mae darnau yn y Western Mail wedi’u 聽trefnu. Mae’n bosib hefyd cynnig syniadau am 'draethawd' i'r papur.
Cysylltiadau 芒'r Gymuned a Busnesau
Mae'r Brifysgol bob amser yn awyddus i hybu ei chysylltiadau 芒 busnesau a'r gymuned leol. Gall projectau sy'n ymwneud 芒 busnes lleol, gr诺p cymunedol neu unrhyw waith arloesol gyda diwydiant (nad yw'n gyfrinachol), fod o ddiddordeb i wahanol gyfryngau.
Newyddion Mewnol
Bydd rhai eitemau newyddion yn fwy perthnasol i staff a/neu fyfyrwyr yn hytrach nag i'r cyfryngau cyffredinol. Mae modd rhoi’r math yma o newyddion ar FyMangor neu ar yr Hysbysfwrdd Staff. Gall eich cyswllt marchnata o fewn eich ysgol/adran eich helpu gyda hyn.
Cyfleoedd i Dynnu Lluniau
Mae’n ddigon posibl y bydd projectau myfyrwyr yn gyfle i gael ffotograffau diddorol - gellid eu defnyddio yn lleol neu ym mr枚ydd y myfyrwyr dan sylw. Gall unrhyw brojectau ymchwil anarferol sydd 芒 chynnwys gweledol cryf hefyd fod o ddiddordeb i wahanol gyfryngau. Gall y mathau hyn o straeon, sydd 芒 delweddau’n rhan bwysig ohonynt, fod yn well ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol - cysylltwch 芒 Swyddfa'r Wasg ymlaen llaw i drafod. Efallai y bydd rhai amgylchiadau’n cyfiawnhau llogi ffotograffydd proffesiynol; fodd bynnag, os yw'n briodol, gellid defnyddio ffonau clyfar modern/tabledi hefyd - gweler PDF ‘Cynghorion ar dynnu lluniau da.
Cysylltiadau 芒'r Cyfryngau
Datganiadau i'r Wasg yw'r dull sylfaenol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i newyddiadurwyr. Os ydych o'r farn bod gennych bwnc addas ar gyfer datganiad i'r wasg, rhowch wybod i Swyddog y Wasg drwy ffonio neu anfon e-bost gan gynnwys y pwyntiau sylfaenol 鈥� gweler PDF ‘Cyngor ar ysgrifennu datganiad i’r wasg’.
Ar 么l derbyn datganiad i'r wasg, mae'n bosibl y bydd newyddiadurwr yn dymuno cael rhagor o fanylion neu siarad 芒'r sawl sy'n uniongyrchol gysylltiedig 芒'r pwnc. Gan hynny, dylai'r unigolyn hwnnw fod yn barod i neilltuo amser i siarad 芒 newyddiadurwyr. Bydd hyn yn golygu ychwanegu gwybodaeth bellach at stori a gaiff ei hargraffu neu gymryd rhan mewn cyfweliad am y pwnc ar y radio neu'r teledu 鈥� gweler PDF ‘Cyngor ar siarad gyda’r cyfryngau’.
Mae coronafeirws, am y tro o leiaf, wedi gwneud cyfweliadau wyneb yn wyneb yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Dyma rai聽awgrymiadau defnyddiol聽i’ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad o’ch ystafell fyw neu eich ystafell wely sb芒r.
Barn Arbenigol
Yn aml, bydd ar newyddiadurwyr angen arbenigwyr ar ystod eang o faterion a byddant yn cysylltu 芒 Swyddfa'r Wasg yn aml i holi a oes gennym arbenigwyr mewn maes penodol. Mae rhoi barn arbenigol o'r fath yn gallu bod yn werthfawr iawn i roi cyhoeddusrwydd i’r Brifysgol, a chadarnhau ein safle fel prifysgol "o'r radd flaenaf".
Yn aml bydd newyddiadurwyr yn cysylltu 芒 staff yn uniongyrchol drwy ddod ar draws eich manylion ac arbenigedd pwnc ar-lein. Os byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliad ar y radio neu'r teledu, anfonwch y manylion canlynol at Swyddfa’r Wasg:
- Enw
- Ysgol/Adran
- Pwnc
- Rhaglen a gorsaf neu sianel
- Dyddiad y cyfweliad/darllediad (os yw'n hysbys).
- Eich cyfeiriad Twitter (os oes gennych gyfrif) er mwyn i ni hybu eich cyfweliad ar ein cyfryngau cymdeithasol
Os byddwch yn gweld stori yn torri yn y newyddion, sy'n gysylltiedig 芒'r maes yr ydych yn arbenigo ynddo, mae'n bosibl eich cynnig eich hun fel arbenigwr. Os byddwch yn teimlo y gellwch wneud hyn, cysylltwch 芒 Swyddfa’r Wasg i drafod.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau y byddwch yn eu cael sy'n ceisio sylwadau am faterion sy'n gysylltiedig 芒'r Brifysgol gyfan at Swyddfa'r Wasg yn gyntaf oll.
Ac yn olaf鈥�
Nid yw'r uchod yn rhestr gynhwysfawr ond mae’n rhoi syniad o'r ffordd o hyrwyddo eich gwaith.
Cynigir cwrs byr, Cyflwyniad i Weithio gyda'r Cyfryngau, drwy raglen Datblygu Staff Adnoddau Dynol i staff sydd eisiau dysgu mwy am hyrwyddo’u gwaith.