1000 o Fywyda +
Llongyfarchiadau i ddwy fyfyrwraig o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol 精东传媒, sydd wedi eu gwahodd i gyflwyno yn y Dosbarth Meistr 鈥�1000 o fywyda鈥� ar gyfer myfyrwyr ac addysgwyr ar y 10fed Mehefin yn Abertawe. Bydd y myfyrwyr yn adrodd ar brosiectau gwahanol sy鈥檔 cyfrannu tuag at wella gofal cleifion yng Nghymru.
Mae Lynne Roberts a Donna Ward ill dwy yn astudio ar gyfer BN mewn Nyrsio Oedolion ym Mangor. Bydd Lynne sy鈥檔 fyfyriwr trydedd flwyddyn yn cyflwyno sgwrs o dan y teitl: "Ansawdd mewn cynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar y claf: ymyriadau nyrsio er mwyn lleddfu rhwymedd".
Barn Lynne yngl欧n 芒 chyflwyno yn y gynhadledd: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis i gyflwyno yn y digwyddiad yma yn Abertawe. Mae fy nghyflwyniad yn ymwneud 芒 thynnu sylw at bwysigrwydd integreiddio ymyriadau syml i sicrhau bod y claf yn ganolog wrth gynllunio gofal i liniaru rhwymedd. Yr wyf yn edrych ymlaen at y digwyddiad "
Myfyriwr yn ei hail flwyddyn yw Donna, a bydd yn cyflwyno poster ar ei phrosiect yn dwyn y teitl: "Rheoli pryder cyn llawdriniaeth mewn unedau llawdriniaeth ddydd". Mae Donna hefyd yn "falch o gael gwahoddiad i gyflwyno fy mhoster".
Mae mwy o wybodaeth yngl欧n 芒鈥檙 digwyddiad ar gael yn:
h
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013