Academyddion ym Mangor yn denu grantiau o鈥檙 Academi Brydeinig
Bydd canlyniadau anfwriadol y camau gorfodi i reoleiddio banciau yn cael eu craffu mewn astudiaeth newydd gan Ysgol Busnes 精东传媒. Mae Dr Danny McGowan a鈥檙 Athro Klaus Schaeck wedi cael grant o 拢10,000 gan yr Academi Brydeinig i weld a yw鈥檙 rheoliadau sy鈥檔 gorfodi banciau i roi trefn ar eu gweithgareddau yn cael canlyniadau anfwriadol ar ddefnyddwyr a chwmn茂au.
Dywedodd Dr McGowan mewn cyfweliad, 鈥淵n ystod yr argyfwng ariannol diweddar cymrwyd camau sylweddol gan lywodraethau a rheoleiddwyr i orfodi banciau i roi trefn ar eu taenlenni. Yr enghraifft fwyaf eithafol oedd gwladoli Northern Rock ond roedd gorfodi鈥檙 uniad rhwng Lloyds-HBOS yn enghraifft nodedig arall鈥�. Er mai bwriad yr ymyriadau hyn oedd adfer sefydlogrwydd mewn banciau oedd wedi mynd yn rhy agored i'r farchnad forgeisi credyd gwael, un o鈥檙 canlyniadau oedd bod y banciau wedi rhoi鈥檙 gorau i fenthyca i ddefnyddwyr ac entrepreneuriaid.
Bydd academyddion 精东传媒 yn ystyried yn eu hymchwil a yw sgil effeithiau rheoleiddio'r banciau yn cynnwys cyfangu ar gyfradd twf economaidd a gostyngiad ym maint entrepreneuriaeth. Yn aml nid oes gan ddefnyddwyr a chwmn茂au ddigon o gyllid eu hunain ac felly maent yn ddibynnol iawn ar fanciau i gael cyllid buddsoddi a dechrau busnesau. Mae鈥檔 bwysig astudio'r cyswllt hwn gan ei fod yn gofyn cwestiynau pwysig i lunwyr polis茂au: trwy gymryd camau i achub banciau gallant niweidio sectorau eraill o鈥檙 economi. Mae鈥檙 ymchwil yn mynd i鈥檙 afael 芒 chwestiwn allweddol sef deall beth yw maint yr effeithiau hyn ac a fyddant yn parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012