Addysg gwyddoniaeth yng Nghymru a鈥檙 goblygiadau ar gyfer economi Cymru
Mae Prifysgol 精东传媒 yn dod a鈥檙 诺yl wyddoniaeth bwysig hon, a fydd yn para am wythnos gyfan, i鈥檙 ddinas. Cynhelir digwyddiadau a fydd yn apelio at bobol o bob oedran a diddordeb. Bydd yr 诺yl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru.
A ydym yn cynhyrchu鈥檙 wyddoniaeth a鈥檙 gwyddonwyr y mae arnom eu hangen i gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru? Sut all gwyddoniaeth ein cynorthwyo i ymateb i sialensiau sy鈥檔 wynebu Cymru heddiw ac yn y dyfodol? A all gwyddoniaeth helpu economi Cymru i dyfu? A ydym yn rhoi sylw priodol i鈥檙 materion hyn? A ydym yn manteisio鈥檔 llawn ar y wybodaeth wyddonol sydd eisoes ar gael i ni? Sut allem ni annog mwy o bobol ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a chael eu hysbrydoli ganddi?
Beth yw eich barn chi?
Gall y cyhoedd, disgyblion ysgol a myfyrwyr ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr mewn Trafodaeth Banel ar Wyddoniaeth ac Addysg a gynhelir am 12.00 ddydd Gwener 11 Mawrth yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol.
Ni chodir t芒l mynediad ond gofynnir i chi archebu eich lle ar-lein. Gellwch anfon eich cwestiynau ar-lein hefyd :
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth banel bydd John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Terry Hewitt, Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol 精东传媒 ac arbenigwr ar gyfrifiaduro gwyddonol, Yr Athro Sian Hope, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol 精东传媒, Dr James Ingram, sydd wedi graddio o Fangor ac yn ymgynghorydd i鈥檙 diwydiant ynni adnewyddadwy a Mr John Idris-Jones, Pennaeth Economeg-Gymdeithasol yn Magnox North.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod yr 糯yl Gwyddoniaeth yn cynnwys teithiau cerdded gydag arweinydd, sgyrsiau, 鈥楪wyddoniaeth Wyllt鈥� gyda Iolo Williams yng Ngardd Botaneg Treborth a dyddiau Eco-wyddoniaeth i ysgolion - mae pob digwyddiad cyhoeddus am ddim- cofrestrwch i archebu eich lle drwy鈥檙 wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011