Ailgyfodi Cymdeithas y Ddrama Gymraeg
Y mae鈥檔 fwriad gan rai o fyfyrwyr 么l-radd atgyfodi hen gymdeithas a sefydlwyd yma ym Mangor yn 1923 dan lywyddiaeth neb llai na鈥檙 bardd R. Williams Parry sef CYMDEITHAS Y DDRAMA GYMRAEG.
Yr actorion adnabyddus, John Ogwen a Maureen Rhys yn ystod cynhyrchiad gan y myfyrwyr.Roedd y myfyrwyr yn awyddus i godi cwmni drama a fyddai鈥檔 fodd i ddwyn myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol at ei gilydd i ychwanegu at y profiad o ddysgu ag o gymdeithasu. Wedi holi ychydig darganfuwyd fod yna Gymdeithas Ddrama Gymraeg yn bodoli eisoes yn y Brifysgol ond ei bod yn segur ers blynyddoedd maith. Aethpwyd i ymchwilio i hanes y Gymdeithas hon yn Archifdy鈥檙 Brifysgol a darganfuwyd yno dystiolaeth i鈥檙 Gymdeithas Ddrama fod yn fudiad llewyrchus a llwyddiannus iawn, ac yn rhan anatod o鈥檙 Gymdeithas Gymraeg ym Mangor, yn enwedig felly o dan arweiniad rhai o lenorion ac academwyr enwocaf Cymru R. Williams Parry, Ifor Williams, Thomas Parry a John Gwilym Jones, rhai a fu hefyd yn aelodau o staff Ysgol y Gymraeg yma ym Mangor.
Bu鈥檙 Gymdeithas Ddrama hon yn teithio hefyd a chafodd nifer o fyfyrwyr gyfle i berfformio ar lwyfannau ledled Cymru. Mae hen raglenni鈥檙 perfformiadau hyn wedi eu diogelu ac mae nifer dda o鈥檙 myfyrwyr hynny a oedd yn perthyn i鈥檙 Gymdeithas wedi dod yn enwog iawn eu hunain yn eu tro. Yn eu mysg mae enwau cyfarwydd fel John Ogwen a Maureen Rhys, dau o Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol 精东传媒.
Eleni, byddwn yn rhoi bywyd newydd i鈥檙 Gymdeithas hon gyda鈥檙 bwriad o ddathlu鈥檙 hyn sydd wych ym myd y ddrama Gymraeg 鈥� y traddodiadol a鈥檙 newydd.
Cynhyrchiad arall gyda John Ogwen, Maureen Rhys ac eraill.Un o鈥檙 rhai sy鈥檔 gyrru鈥檙 fenter yw Diane Jones sy鈥檔 ymchwilio ar gyfer PhD i鈥檙 dram芒u a ysgrifennodd yr awdures enwog Kate Roberts. Os oes gennych ddiddordeb ymuno 芒鈥檙 Gymdeithas rhowch wybod drwy anfon neges ati i鈥檙 cyfeiriad hwn: wepe0a@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012