Anrhydeddau i ysgolheigion Eidaleg 精东传媒
Bu鈥檔 chwe mis rhagorol i ysgolheigion Eidaleg ym Mangor.
I Athro er Anrhydedd Eidaleg 精东传媒, yr Athro Anna Laura Lepschy (UCL), dyfarnwyd Medal Serena am Astudiaethau Eidalaidd gan yr Academi Brydeinig. Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Academi Brydeinig: 鈥淢ae Laura Lepschy wedi cynyddu鈥檔 fawr ein gwybodaeth o ddiwylliant yr Eidal ers y Dadeni hyd at y presennol, trwy ei hymchwiliadau dyfeisgar i bynciau yn y theatr, naratif, ysgrifennu teithio, celfyddyd, amrywiaethau ar iaith, a鈥檙 meysydd lle mae llenyddiaeth ac iaith yn gorgyffwrdd.鈥� Enillwyd yr un wobr gan 诺r yr Athro Lepschy, sef yr Athro Giulio Lepschy (UCL) yn 2002, felly dyma鈥檙 tro cyntaf i 诺r a gwraig ennill y wobr.
Mae gwobr yr Athro Lepschy yn un o gyfres o anrhydeddau sydd wedi dod i ran staff yr adran Eidaleg yn Ysgol Ieithoedd Modern 精东传媒 yn ddiweddar. Mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wedi dod i鈥檙 amlwg: i Mattia Marino, dyfarnwyd Cymrodoriaeth ieuaf yn yr Athrofa ar gyfer Astudiaethau Germanaidd a Rom谩wns (Institute of Germanic and Romance Studies) yn Llundain, a bydd hyn yn caniat谩u iddo gwblhau erthygl hir ar rym tanseiliol cyrff benywaidd grot茅sg mewn ysgrifennu gan ferched yn Ewrop; yn ddiweddar, mae Maria Cristina Seccia wedi bod yn gweithio ar gyfieithiad o farddoniaeth Eidalaidd-Ganadaidd, ac mae detholiad o鈥檌 chyfieithiadau ar fin cael ei gyhoeddi yn y flodeugerdd Writing Our Way Home dan olygyddiaeth Licia Canton; ac i Gerwyn Owen, deiliad ysgoloriaeth cyfrwng-Cymraeg, sy鈥檔 cael ei oruchwylio gan Ieithoedd Modern ar y cyd 芒 Diwydiannau Creadigol, dyfarnwyd ysgoloriaeth uchel ei bri gan y gymdeithas ddiwylliannol Il Circolo i ymchwilio yn 颁颈苍别肠颈迟迟脿, sef archif ffilm genedlaethol yr Eidal yn Rhufain.
Mae Pennaeth Eidaleg, Dr Laura Rorato, yn nes谩u at derfyn astudiaeth a ariannwyd gan yr AHRC i ymatebiadau cyfoes i waith Caravaggio. Yn ddiweddar, fe drefnodd Dr Rorato, ar y cyd 芒鈥檙 Athro Lepschy a Dr Simona Storchi (Prifysgol Caerl欧r), gynhadledd o鈥檙 enw Caravaggio Yesterday and Today: Art, Genius and Legend. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Llundain ar Ionawr 28ain, 2011, yn yr Athrofa ar gyfer Astudiaethau Germanaidd a Rom谩wns. Dyma鈥檙 digwyddiad cyntaf ar Caravaggio a oedd yn ceisio dwyn ynghyd, nid yn unig ysgolheigion o wahanol ddisgyblaethau, ond hefyd ymarferwyr megis llenorion ac artistiaid gweledol.
Y digwyddiad ar Carravagio oedd y cyntaf mewn cyfres i鈥檞 gynnal eleni. Mae鈥檙 Adran Eidaleg hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad Prifysgol Macerata yn yr Eidal, ar y testun 'Before and Beyond Auschwitz.' Cyflwynir canfyddiadau鈥檙 prosiect ddydd Mercher, Chwefror 24ain, 2011 am 2 y prynhawn yn Ystafell Gynhadledd 3. Mae Dr Rorato a Ms Seccia hefyd wrthi鈥檔 trefnu seminar undydd ar ffuglen Eidalaidd-Ganadaidd i鈥檞 chynnal ym Mhrifysgol 精东传媒 ar Fai 4ydd, 2011. Y prif siaradwyr fydd yr Athro Anna Pia De Luca (Prifysgol Udine) a鈥檙 llenor Caterina Edwards.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011