Arbenigwyr canser yn dod ynghyd mewn Cynhadledd ym Mangor
Ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon, bydd cynrychiolwyr o bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig yn dod ynghyd ym Mhrifysgol 精东传媒 ar gyfer yr ail gynhadledd sy'n edrych ar sut y gellir darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion sydd 芒 chanser mewn ardaloedd gwledig.
Mae鈥檙 Gynhadledd yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Glinigol Gogledd Cymru.
Eglurodd Matt Makin sy鈥檔 Athro Gwadd ac yn Bennaeth Staff Canser Betsi Cadwaladr:
鈥淢ae ceisio darparu gofal effeithiol i gleifion canser ar hyd a lled ardal wledig fel gogledd Cymru, sy鈥檔 ardal fawr ac yn eithaf prin ei phoblogaeth, yn her wahanol iawn i redeg gwasanaethau mewn dinas fawr. Them芒u鈥檙 gynhadledd eleni yw sut yr ydym yn cwrdd 芒鈥檙 her o sicrhau diagnosis cynnar o ganser a sut ydym ni鈥檔 cefnogi ac yn rhoi gofal dilynol i gleifion ar 么l iddynt gael triniaeth canser. Y mater arall byddwn ni鈥檔 ei drafod yw sut yr ydym yn cwrdd 芒'r her o ddarparu gofal canser modern ar adeg anodd yn ariannol.
鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檙 hyn sydd wedi ei gyflawni ym maes Gwasanaethau Canser ar draws Gogledd Cymru a gobeithiwn y bydd y Gynhadledd yn gatalydd i ddatblygiadau pellach, yma ac i鈥檔 cydweithwyr mewn rhannau eraill o Brydain."
Dywedodd yr Athro Nick Stuart, sy鈥檔 Athro Astudiaethau Canser ym Mhrifysgol 精东传媒:
鈥淢ae鈥檙 Brifysgol yn falch o groesawu鈥檙 gynhadledd hon sy鈥檔 dangos y cydweithio agos cynyddol rhwng y Brifysgol a鈥檙 Bwrdd Iechyd. Mae鈥檙 gynhadledd yn tynnu sylw at nifer o heriau allweddol a wynebir gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac ni ellir eu datrys heb sicrhau cydweithio rhwng ymchwilwyr ac arbenigwyr iechyd.鈥�
Mae鈥檙 siaradwyr yn y Gynhadledd yn cynnwys:
Yr Athro Willie Hamilton, Athro Diagnosteg Gofal Sylfaenol, Peninsula College of Medicine and Dentistry, yn siarad am 鈥淭he mistakes we make in cancer diagnosis鈥�.
Bydd Dr. Richard Neal, Uwch Ddarlithydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Prifysgol 精东传媒, yn gofyn; 鈥�How much does early diagnosis matter?鈥�
Bydd yr Athro Eila Watson, Athro Gofal Canser Cefnogol HRH Prince Sultan, Adran Gofal Iechyd Clinigol, Prifysgol Oxford Brookes yn gofyn y cwestiwn; 鈥�Where next for the cancer survivor?鈥�
Bydd Dr. Geoffrey Carroll, Cyfarwyddwr Meddygol, T卯m Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru yn ystyried 鈥�Access to higher cost cancer care 鈥� is possible within a shrinking NHS?鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011