Archesgob Caergrawnt yn anrhydeddu Athro o Fangor
Yr Athro John Harper (dde) efo cyd-dderbynydd gradd, Dr John Harris (chwith), ac Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams ym Mhalas Lambeth.Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol 精东传媒, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae鈥檙 Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw鈥檙 Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a鈥檌 gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o鈥檙 berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi鈥檙 eglwys.
Medd yw Athro Harper: 鈥楨r i鈥檙 gwaith a wnes i, a鈥檙 bobl y b没m yn gweithio 芒 hwy, fod yn ddigon o wobr ynddynt eu hunain, mae鈥檙 cymhwyster hwn yn gadarnhad o bwys, nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb y b没m yn gweithio gyda hwy ac yn eu haddysgu.鈥�
Wrth gyflwyno鈥檙 radd, mae Archesgob Caergrawnt yn defnyddio hawl unigryw a roddwyd gan Ddeddf Seneddol ym 1533 i ddyfarnu graddau ar sail ysgolheictod a dysg. Cyflwynir y radd Doethur mewn Cerddoriaeth mewn seremoni arbennig i鈥檞 chynnal ym Mhalas Lambeth ar 9 Tachwedd 2010.
Mae John Harper yn Athro Ymchwil mewn Cerddoriaeth Gristnogol a Litwrgi ym Mangor, ac yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig. Ar hyn o bryd, mae鈥檔 arwain project ymchwil o bwys dan nawdd ESRC/AHRC, ar The Experience of Worship. Daeth i Fangor yn gyntaf fel Athro Cerddoriaeth ym 1991, lle ehangodd waith yr Adran Gerddoriaeth a sefydlu cyfres o fentrau mewn astudiaethau ar gerddoriaeth Cymru ac ymchwil iddi. O 1998 tan 2007, bu鈥檔 gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ar yr Ysgol Frenhinol dros Gerddoriaeth Eglwysig (RSCM), ond cadwodd ei gysylltiad 芒鈥檙 Brifysgol fel athro ymchwil, gan sefydlu cydweithrediad rhwng y Brifysgol a鈥檙 RSCM yng nghyswllt astudiaethau ar gerddoriaeth gysegredig. Yn yr RSCM, symudodd ymlaen 芒 llawer o fentrau newydd ym myd cerddoriaeth, addysg gerddorol a chyhoeddi ar gyfer eglwysi a cherddorion eglwysig. Dychwelodd i Ogledd Cymru yn 2008, i ganolbwyntio ar ddatblygu astudiaethau ym maes cerddoriaeth gysegredig yn y Brifysgol, ac ar ysgrifennu ac ymchwil.
Mae鈥檙 Athro Harper wedi treulio鈥檙 rhan helaethaf o鈥檌 yrfa yn ymwneud, rywfodd neu鈥檌 gilydd, 芒 cherddoriaeth eglwysig. Yn ystod y 1970au, bu鈥檔 gweithio fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol St Chad yn Birmingham, gan dderbyn gwobr Benemerenti gan y Pab Paul VI ym 1978 am ei wasanaethau. Fel organydd, cymrawd a thiwtor yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, o 1981 tan 1990, bu鈥檔 cyfarwyddo c么r adnabyddus y coleg. Mae hefyd yn gyfansoddwr, a鈥檌 weithiau鈥檔 cynnwys Jubilate a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer ymweliad y Frenhines ag Eglwys Gadeiriol 精东传媒 ar gyfer dathliad y Jiwbil卯 Aur yng Nghymru yn 2002, a gosodiad dwyieithog o鈥檙 Cymun ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru 鈥� Cymun y Cymry. Y rhan fwyaf o鈥檙 Suliau, mae鈥檔 chwarae鈥檙 organ yn eglwys blwyf y Santes Fair, Llanfair Pwllgwyngyll.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010