Arloesi Pontio yn cefnogi cyn-fyfyriwr o Brifysgol 精东传媒 i ddatblygu braich brosthetig ar gyfer ei fab
Ben Ryan: Llun: AmbionicsMae cyn-fyfyriwr o Brifysgol 精东传媒 wedi sefydlu ei gwmni ei hun gyda chymorth gan Arloesi Pontio i ddatblygu aelodau prosthetig ar gyfer plant ifanc.
Ddwy flynedd yn 么l, roedd Sol Ryan, mab cyn-fyfyriwr seicoleg Ben Ryan, angen llawdriniaeth frys pan oedd yn 10 diwrnod oed. Gwnaeth llawfeddygon y penderfyniad anodd i dorri braich Sol i ffwrdd o dan y benelin oherwydd tolchen waed.
Doedd gweithwyr iechyd proffesiynol ddim yn gallu cynnig help gyda braich brosthetig hyd nes y byddai Sol yn flwydd oed.
Nid oedd Ben am aros am flwyddyn, felly defnyddiodd darnau o sbwng a鈥檜 gosod 芒 th芒p ar benelin Sol i weld beth fyddai'n digwydd. O fewn munudau roedd Sol yn chwarae gyda鈥檌 deganau gyda'i law 鈥� a鈥檌 fraich sbwng. Dyma鈥檙 tro cyntaf iddo geisio defnyddio ei fraich chwith ers y llawdriniaeth, cyn hynny, nid oedd y fraich chwith yn gwneud dim.
Roedd yn foment dyngedfennol i Ben, ac o hynny ymlaen, daeth datblygu braich well i Sol yn obsesiwn. Lluniodd Ben syniad am ddyluniad newydd a fyddai'n gweithredu llaw gan ddefnyddio symudiadau bach y benelin.
Roedd Ben yn argyhoeddedig y byddai鈥檔 gweithio, a chysylltodd ag Arloesi Pontio i ofyn am gymorth.
Eglurodd Wyn Griffith, Prif Dechnegydd Arloesi Pontio: "Pan ddechreuais i siarad 芒 Ben a chlywed beth roedd am ei wneud a pham yr oedd am ddod yma, roeddwn yn teimlo鈥檔 wylaidd iawn.
"Roeddem newydd symud i mewn i鈥檙 adeilad newydd, a pha ffordd well i ddefnyddio鈥檙 offer newydd ond i helpu Ben gyda鈥檌 brosiect."
Gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D-modern yn y labordy arloesi, roedd Ben a staff y Brifysgol yn gallu defnyddio darnau amrywiol o siop DIY a鈥檜 dychymyg i greu rhywbeth llawer mwy.
Ychwanegodd Wyn: "Y ffordd orau gallwn ni helpu pobl, i'w eu helpu i helpu eu hunain. Rydym wedi rhoi sgiliau a mynediad i offer a hyfforddiant i Ben fel y gall ddatblygu ei syniadau ei hun."
Heddiw, mae gan Sol brototeip newydd o fraich a llaw sy鈥檔 gallu gafael, gyda bawd symudol. Ac yn hytrach na'r tri mis a gymerai i gastio ac adeiladu braich brosthetig gwydr ffibr drwy'r gwasanaeth iechyd, gellir adeiladu ac argraffu braich newydd mewn ychydig o ddyddiau.
Golyga hyn fod y bachgen ifanc yn gallu cael yr ymyriad cynnar sydd ym marn ei deulu yn angenrheidiol, ac mae hefyd wedi agor byd cyfan newydd o gyfleoedd i鈥檞 dad.
Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio: "Gallai hyn leihau amseroedd aros arferol y GIG, sy鈥檔 oddeutu 6-12 wythnos, i ychydig oriau. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried goblygiadau seicoleg ddatblygiadol, ac ni ellir gorbwysleisio鈥檙 effaith ar fywyd unigolion.
"Maes o law, gallai'r datblygiadau gynnwys synwyryddion wedi'u hargraffu, a datblygu meddalwedd i awtomeiddio鈥檙 gwaith gosod a gweithgynhyrchu o fewn y cartref. Byddai dull amlddisgyblaethol yn ddelfrydol yn cynnwys peirianneg, systemau gwasanaeth iechyd, cyfrifiadureg, seicoleg, dylunio cynnyrch ac economeg iechyd a busnes."
Mae Ben wedi rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 waith bob dydd i ganolbwyntio yn llawn amser ar aelodau prosthetig ac wedi sefydlu cwmni newydd o'r enw . Er bod y cwmni鈥檔 newydd, mae Ben eisoes wedi ennill cefnogaeth gan enwau mawr. Ynghyd 芒 chefnogaeth gan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol 精东传媒, mae Ambionics hefyd yn cael ei gefnogi gan raglen entrepreneuriaeth Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru.
Hyd yma, ariannwyd y prosiect cyfan gan deulu a ffrindiau, ond bellach mae ymgyrch cyllido torfol wedi cychwyn, gyda Ben yn ceisio codi o leiaf 拢150,000 i fodloni'r awdurdodau meddygol bod ei fraich brosthetig yn ddiogel i鈥檞 defnyddio, i gwblhau'r patentau ac i ddatblygu'r dyluniad.
Os gall Ben godi hyd yn oed fwy o arian, mae eisiau gweld treialon ymchwil meddygol i gefnogi ei ddamcaniaethau ynghylch y ffordd mae plant ifanc yn dysgu defnyddio aelodau artiffisial.
Mwy o fanylion ariannu torfol .
Mae stori newyddion y BBC a fideo am y datblygiad cyffrous hwn i'w gweld yma:
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017