At arweinwyr ac arloeswyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru Crwsibl Cymru 2012
Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth bwysig i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Beth yw Crwsibl Cymru?
Cyllidir Crwsibl Cymru gan y gr诺p G诺yl Ddewi o sefydliadau addysg uwch, a bydd yn dod 芒 deg ar hugain o ymchwilwyr at ei gilydd i edrych sut y gallant gydweithio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 sialensiau ymchwil sy鈥檔 wynebu Cymru ar hyn o bryd.
Cynhelir Crwsibl Cymru 2012 dros dri gweithdy dwys deuddydd yr un (preswyl), a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i wneud y canlynol:
- datblygu rhwydwaith o gyfoedion yn y gymuned ymchwil,
- ffurfio cysylltiadau 芒 Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a鈥檙 cyfryngau Cymreig;
- gwella eich effeithiolrwydd yn eich sefydliad a thu hwnt iddo;
- sicrhau bod eich ymchwil yn cael mwy o ddylanwad;
- dysgu am wahanol feysydd ymchwil a meithrin datblygiad personol a gyrfa.
Crwsibl Cymru 鈥� Rhaglen 2012
- 31ain Mai a 1af Mehefin, cynhelir gan Brifysgolion Caerdydd a Morgannwg yng Nghaerdydd
- 28ain a 29ain Mehefin, cynhelir gan Brifysgol Abertawe yn Abertawe
- 26ain a 27ain Gorffennaf, cynhelir gan Brifysgolion Aberystwyth a 精东传媒 ym Mangor
Mae鈥檔 rhaid i gyfranogwyr roi addewid i ddod i bob un o鈥檙 tri gweithdy fel amod gwneud cais.
Pwy ddylai wneud cais?
Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr addawol iawn o bob disgyblaeth
- gyda thair blynedd o brofiad ymchwil 么l-ddoethurol (neu gyfwerth); (e.e. darlithwyr, cymrodyr academaidd, cymrodyr ymchwil, uwch gymrodyr ymchwil)
- sy'n gweithio mewn SMEs/cwmn茂au deillio Cymreig neu ym Mhrifysgolion Aberystwyth, 精东传媒, Caerdydd, Morgannwg neu Abertawe neu
Dim ond 30 o ymgeiswyr ar draws Cymru a ddewisir i gymryd rhan yn Crwsibl Cymru 2012. Adolygir ceisiadau gan Banel Dewis wedi鈥檌 gynnull yn arbennig.
Crynodeb o鈥檙 Dyfarniad
Mae cyllid a gafwyd gan y gr诺p G诺yl Ddewi yn golygu y gall ymgeiswyr llwyddiannus gymryd rhan yn y rhaglen hon am ddim.
Telir holl gostau preswyl, yn cynnwys llety a bwyd, a chostau鈥檙 holl sesiynau yn y tri Labordy Crwsibl, dros holl ymgeiswyr llwyddiannus y Crwsibl. Telir costau teithio rhesymol yn 么l ac ymlaen o bob Labordy Crwsibl.
Am wybodaeth bellach am Grwsibl Cymru a Rhaglen 2012 ewch i Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y fideo ar wefan NESTA:
Meini Prawf y Broses Ddewis
Dechrau /canol gyrfa 鈥� o leiaf 3 blynedd o brofiad 么l-ddoethurol neu gyfwerth (gofynnol)
Rhagoriaeth mewn ymchwil a meddwl yn greadigol wrth ymdrin 芒鈥檜 gyrfa
Awydd i wneud y canlynol:
- Sicrhau bod eich ymchwil yn cael mwy o effaith
- Diddordeb mewn ymwneud 芒鈥檙 cyhoedd, rhyngweithio 芒鈥檙 cyfryngau a gwneuthurwyr polisi
- Datblygu rhwydwaith o gyfoedion mewn ymchwil
- Gweithio鈥檔 rhyngddisgyblaethol
Deall cenhadaeth Crwsibl Cymru ac ymroddiad iddo:
- Diddordeb mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol, a phrofiad o hynny yn ddelfrydol
- Ymwneud 芒鈥檙 cyhoedd a throsglwyddo gwybodaeth
- Datblygu sgiliau ac agweddau ar gyfer ymchwil arloesol
- Meddwl yn greadigol wrth ymdrin 芒'u gyrfa
Diddordebau mewn gweithgareddau eraill ym myd gwaith y tu allan i ymchwil, e.e. ymwneud 芒鈥檙 cyhoedd, ymwneud 芒 chymdeithasau dysgedig neu grwpiau pwnc.
Cysylltwch a Penny Dowdney (Swyddfa Ymchwil ac Arloesi) os oes mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.
p.j.dowdney@bangor.ac.uk : x2266
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2012