Beth yw ieithoedd dadleuol eu statws?
Rydym yn gyfarwydd 芒鈥檙 term ieithoedd lleiafrifol, yn wir mae鈥檙 Gymraeg yn iaith leiafrifol, ac yn cael ei chydnabod a鈥檌 chefnogi o鈥檙 herwydd, ac mae yna restrau o ieithoedd sydd mewn perygl, ond mae categori arall yn bodoli: sef ieithoedd dadleuol eu statws ( contested languages).
Ieithoedd yw鈥檙 rhain sydd yn ddigon wahanol yn ieithyddol i brif iaith y wlad lle maent yn cael eu siarad i gael eu dosbarthu fel iaith wahanol, ond nad ydynt wedi derbyn statws iaith swyddogol ac yn cael eu hystyried yn dafodieithoedd.
Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 ieithoedd hyn hefyd mewn perygl o ddiflannu, ac o鈥檙 herwydd yn cael eu rhestru yn Atlas Ieithoedd mewn Perygl UNESCO, a gyhoeddwyd yn 2010.
Bydd ym Mhrifysgol 精东传媒 yr wythnos nesaf, (Medi 8-10), yn dod ag amrediad o arbenigwyr at ei gilydd i drafod tynged yr ieithoedd hyn.
Ag yntau鈥檔 siaradwr un o鈥檙 ieithoedd hyn, sef, Lombardeg, Dr Marco Tamburelli o yw un o drefnwyr y Gynhadledd ac mae鈥檔 esbonio:
鈥淵m Mhrydain, roedd Scots yn iaith ddadleuol eu statws nes i Lywodraeth yr Alban ei chydnabod. Mae fy mamiaith, Lombardeg yn cael ei chydnabod gan UNESCO fel iaith mewn perygl, gan ei bod yn ieithyddol wahanol i鈥檙 Eidaleg ond nid yw鈥檔 cael ei chydnabod fel iaith swyddogol nac yn yr Eidal nac yn y Swistir , lle mae鈥檔 famiaith i rai.
鈥淢ae pobl yn rhagdybio bod pawb yn gyt没n ar fater ieithoedd lleiafrifol 鈥� rydym yn gwybod ble maen nhw ac yn y blaen, ond mae yna ieithoedd eraill a all fod yn disgyn trwy鈥檙 rhwyd, ac mewn perygl o fynd i ddifancoll. Gall hyn fod am amryw o resymau hanesyddol, gwleidyddol neu economaidd.
Mewn rhai achosion mae miliynau o bobl yn siarad yr iaith ond nid oes addysg, gwasanaethau ac yn y blaen ar eu cyfer yn yr iaith honno. Er enghraifft nid oes mwy o wahaniaeth ieithyddol rhwng Galiseg a Sbaeneg nag rhwng Astwreg a Sbaeneg ac eto ni chydnabyddir Astwreg yn iaith leiafrifol yn Sbaen, er iddi gael ei siarad gan fwy na chan mil o bobl.
Mae鈥檙 gynhadledd yn cynnull ieithyddion, gwyddonwyr gwleidyddol ac arbenigwyr cyfreithiol i drafod y materion hyn a'r ffordd ymlaen. Rhaid adnabod yr ieithoedd hyn cyn gallu mynd ati i'w cydnabod a chydnabod eu hawliau.
Bydd y Gynhadledd yn clywed prif anerchiad gan Dr. Christopher Moseley, awdur Atlas Ieithoedd y Byd sydd mewn Perygl UNECSO.
Meddai Dr Tamburelli: 鈥淯n o鈥檓 bwriadau wrth drefnu鈥檙 gynhadledd hon yng Nghymru oedd tynnu sylw at lwyddiant diweddar y Gymraeg, dathlu鈥檙 Gymraeg ac annog siaradwyr ieithoedd dadleuol eu statws i ymdrechu i gael yr un llwyddiant ag a welsom yng Nghymru."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013