Canolfan Cymraeg i Oedolion ar y brig
Mae dysgwyr y Gymraeg drwy Gymru gyfan wedi lleisio eu barn am y cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr, ac mae wedi sgorio鈥檔 sylweddol uwch na鈥檙 cyfartaledd cenedlaethol.
. Mae ffigyrau arolwg blynyddol gan Ipsos MORI, ar ran llywodraeth Cymru, yn dangos yn glir fod Canolfan CiO y Gogledd yn cynnig gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf i ddysgwyr. Mae鈥檙 data yn dangos fod bodlonrwydd dysgwyr yn y gogledd yn sylweddol uwch na鈥檙 cyfartaledd cenedlaethol gyda:
- 95% o ddysgwyr y gogledd yn meddwl fod darparwyr y cyrsiau yn dda neu鈥檔 dda iawn (93% yn 2013) a dim un dysgwr yn meddwl eu bod yn wael. Mae hyn yn cymharu 芒 chanran o 87% ar gyfartaledd trwy Gymru
- Mae 95% o ddysgwyr y gogledd hefyd yn meddwl fod eu cyrsiau yn cyfarfod 芒鈥檜 disgwyliadau neu鈥檔 well na hynny. Hyn yn cymharu 芒 92% trwy Gymru ar gyfartaledd
Wrth ddadansoddi boddhad dysgwyr y gogledd yn gyffredinol, o鈥檙 5 cwestiwn a gafwyd, roedd y Ganolfan yn rhagori鈥檔 sylweddol ar y cyfartaledd cenedlaethol ymhob cwestiwn, ac mewn 3 chwestiwn yn cyrraedd lefel Rhagorol, sy鈥檔 atgyfnerthu canfyddiadau Estyn yn 2012 a ddyfarnodd y Ganolfan fel un Rhagorol; yr unig un yng Nghymru. Ymysg yr adborth a dderbynniwyd yn ddi-enw drwy鈥檙 adroddiad gan y dysgwyr cafwyd sylwadau megis:
鈥渆xcellent teaching delivered in a fun way which keeps people interested and motivated鈥�
鈥� 鈥� provides many different methods to help us learn Welsh, inside and outside of class鈥�
鈥淭he tutors are friendly and helpful鈥 would recommend this course to anybody鈥�
鈥淭he course is very structured, meaning you are always learning new things whilst reinforcing the older stuff鈥�
Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan CiO y Gogledd
鈥淩ydym yn falch iawn fod llais y dysgwyr yn adlewyrchu鈥檙 gwaith ardderchog mae ein tiwtoriaid yn ei wneud drwy鈥檙 flwyddyn. Ethos y Ganolfan yw cynnig y safon uchaf posib, ac fe fyddwn yn parhau i wrando ar ein dysgwyr a thrafod gyda hwy er mwyn cynnal ein safonau yn y dyfodol鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014