Canolfan M么r Cymru yn agor ei drysau yn ystod G诺yl Fwyd M么r Menai
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn dadorchuddio plac i agor Canolfan M么r Cymru'n swyddogol. Bydd cyfle i unigryw i fynychwyr G诺yl Bwyd M么r Menai ddydd Sadwrn (20 Awst) ymweld 芒 Chanolfan M么r Cymru ar safle Prifysgol 精东传媒 ym Mhorthaethwy.
Dyma yw'r diwrnod agored cyntaf i'r cyhoedd er pan agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Dywysog Cymru ym mis Gorffennaf eleni. Bydd arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol yn dangos y gwaith arloesol a wneir gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae Canolfan M么r Cymru yn gyfleuster modern, amgylcheddol-gyfeillgar gwerth 拢5.5M ar gyfer y sector morol yng Nghymru. Mae'n rhoi ffocws a mynediad i arbenigedd a gofod ar gyfer cydweithredu rhwng ymchwilwyr, gweithredwyr masnachol ac asiantaethau yn y sector.
Meddai'r Athro Colin Jago, Deon Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol: "Mae G诺yl Bwyd M么r Menai 鈥� gyda'r pwyslais ar fwyd m么r lleol, yr amgylchedd morol a threftadaeth arfordirol 鈥� yn cynnig cyfle perffaith i wahodd y cyhoedd i ddod i'n gweld ac i ddysgu mwy am ein gwaith. Mae yna lawer o waith ymchwil a datblygu hynod arloesol yn digwydd yn y Ganolfan nad ydi pobl yn ymwybodol ohono.
"Bydd y diwrnod agored yn galluogi pobl i ddysgu am ynni morol adnewyddadwy, newid hinsawdd, pysgodfeydd M么r Iwerddon, prosesau arfordirol ac amgylchedd y m么r sydd yn tynnu sylw at agweddau lleol a byd-eang ein gwaith gwyddonol. Bydd modd ymweld 芒'n labordai, gweld offer morol a
Mae adeilad newydd Canolfan M么r Cymru i weld yn glir ar flaen safle'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy.chreaduriaid y m么r a chael sgwrs gyda biolegwyr y m么r a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
"Rydyn ni wedi cynnal diwrnodau agored i'r cyhoedd yn ystod yr 糯yl yn y gorffennol, cyn i'r Ganolfan newydd gael ei hadeiladu, ac fe ddaeth miloedd o bobl trwy'r drws i ddysgu am ein gwaith. Gyda llawer o ddiddordeb yn lleol yn y Ganolfan newydd, mae'n debygol y byddwn yn brysurach fyth eleni."
Bydd cerflun gwreiddiol gan yr artist lleol Jane Evans hefyd yn cael ei arddangos yng nghyntedd Canolfan Forol Cymru yn ystod yr 糯yl. Fel rhan o raglen addysgol yr 糯yl gydag ysgolion yn yr ardal, bu plant lleol yn casglu cannoedd lawer o boteli plastig er mwyn eu defnyddio mewn gweithdai celf i greu pysgod a chreaduriaid morol eraill i'w defnyddio fel bynting addurniadol ar safle'r 糯yl. Defnyddiwyd 200 o'r poteli hynny gan Jane i greu ei cherflun.
Meddai Jane: "Cefais gais i greu gwaith ar gyfer cyntedd Canolfan M么r Cymru yn sgil y prosiect celf ac addysg a ddat
Bu'r artist Jane Evans yn creu'r gwylanod yma efo disgyblion Ysgol David Hughes.blygais ar gyfer ysgolion. Gyda help S诺 M么r M么n rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw'r plant at y problemau a ddaw o lygredd plastig yn yr amgylchedd arfordirol. Bu disgyblion mewn 7 ysgol gynradd yn creu pysgod a sglefrod m么r a chrewyd gwylanod y m么r gan ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol David Hughes.
"Roedd yn gwneud synnwyr llwyr parhau i weithio gyda'r boteli plastig ac i ddefnyddio'r darn celf hwn fel penllanw i'r prosiect. Rwy'n gobeithio y caiff ei werthfawrogi fel darn hardd o gelf, ond wrth ei greu roedd gen i fwriad hefyd i dynnu sylw at y materion hynod ddifrifol ynghlwm 芒'r angen i warchod ein hamgylchedd arfordirol a phwysigrwydd ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau niweidiol fel plastig.
Bydd G诺yl Fwyd M么r Menai yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ddydd Sadwrn 20 Awst.
Bydd Cyngerdd yr 糯yl gyda Meic Stevens, Band Al Lewis, Sera a'r Band a Ch么r Ieuenctid M么n yn cael ei chynnal ar Bier y Tywysog, Porthaethwy am 6pm nos Wener, 19 Awst. Mae tocynnau yn 拢15 i oedolion, 拢10 consesiynau ac ar gael ym Mwyty Dylan's, Porthaethwy.
Am fwy o wybdoaeth ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016