Cardiau Nadolig gyda darluniau canoloesol unigryw
Mae cardiau Nadolig sydd 芒 chysylltiad arbennig gyda 精东传媒 ar werth yn Eglwys Gadeiriol 精东传媒 a Phrifysgol 精东传媒 y Nadolig hwn.
Mae鈥檙 cardiau鈥檔 cynnwys dau ddarlun o lawysgrif ganoloesol unigryw y 鈥樉� Pontifical鈥�, neu鈥檙 'Llyfr Esgobol ', a gop茂wyd ac a ddarluniwyd oddeutu 1320 ac sy鈥檔 cynnwys y testunau, y gerddoriaeth a鈥檙 gwasanaethau oedd eu hangen ar gyfer achlysuron arbennig yn ystod y flwyddyn pan oedd yr esgob yn bresennol. Perchennog gwreiddiol y llyfr oedd Anian II, sef Esgob 精东传媒 rhwng 1309 a 1328.
Yn y cardiau mae m芒n-ddarlun o esgob yn cysegru eglwys, a darlun dudalen agoriadol wedi ei haddurno ar gyfer offeren arbennig i ddathlu tymor y Nadolig.
Mae'r cardiau ar werth yn Eglwys Gadeiriol 精东传媒 a gan Keith Beasley yn yr Ysgol Cerddoriaeth (e bost k.beasley @ bangor.ac.uk) am 拢 3.99 am 10 (un dyluniad). Bydd unrhyw elw鈥檔 cael ei rannu rhwng yr Eglwys Gadeiriol a phroject Llyfr Esgobol 精东传媒, sy'n cynrychioli鈥檙 cydweithio arbennig rhwng y Brifysgol a'r Eglwys Gadeiriol.
Mae Project Llyfr Esgobol 精东传媒 yn sicrhau mynediad byd-eang at y llawysgrif unigryw hon trwy ei digideiddio a鈥檌 gosod ar y rhyngrwyd. Mae鈥檙 gwefan eisoes yn galluogi defnyddwyr i edrych ar y llyfr cyfan, ac i chwyddo rhannau o鈥檙 tudalennau er mwyn gweld yr addurniadau cywrain a鈥檙 nodiant cerddorol. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd rhagor o adnoddau yn cael eu hychwanegu i鈥檙 wefan, gan gynnwys sylwadau a darluniau ychwanegol, cyfieithiadau鈥檔 rhedeg yn gyfochrog a deunyddiau addysgol, yn ogystal 芒 chyfleuster sain fel y gall defnyddwyr glywed rhai o'r llafarganu鈥檔 cael eu perfformio.
Meddai Dr Sally Harper, un o gyfarwyddwyr y project, "Mae鈥檙 Llyfr Esgobol yn llawysgrif oliwiedig hardd iawn ac mae hyd yn oed yn cynnwys dwdlan canoloesol ar ymylon y tudalennau. Dewiswyd y darluniau oherwydd bod y tudalennau hyn yn cynrychioli pwyntiau allweddol yn y llawysgrif, ac yn dangos gwaith mwyaf creadigol yr arlunydd ym Mangor."
Ychwanegodd y Gwir Barchedig Dr Sue Jones, Deon 精东传媒: "Mae'r Llyfr Esgobol yn un o drysorau'r Eglwys Gadeiriol, ac mae'r project hwn sy鈥檔 fenter ar y cyd yn cynrychioli rhan bwysig o ddatblygu ein cysylltiad gyda鈥檙 Brifysgol."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2011