Cemegwyr Ifainc yn mesur cynnwys halen mewn creision!
Un o'r timau a fu'n wynebu'r her yn y Labordai Cemeg yn ddiweddar.Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng ngogledd a chanolbarth Cymru a鈥檙 gororau yn chwarae r么l cemegwyr dadansoddol yn gwirio cynnwys sodiwm (halen) mewn samplau o greision tortilla wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn y gystadleuaeth a鈥檙 sialens a osodwyd i鈥檙 myfyrwyr Cemeg lefel-A, roedd yn rhaid iddynt weithio i safonau proffesiynol a chynhyrchu data o ansawdd uchel y gellid eu defnyddio i ganfod a all bwyta gormod o'r creision fod yn wael i'ch iechyd.
Roedd creu senario 鈥榖ywyd go-iawn鈥� ar gyfer y gystadleuaeth yn dangos un o鈥檙 swyddogaethau niferus a gyflawnir gan gemegwyr yn y byd modern. Aseswyd y timau yn 么l sgil, dealltwriaeth a chywirdeb, yn ogystal 芒 gwaith t卯m a diogelwch yn y labordy.
Roedd y t卯m buddugol o Ysgol Ruthin (T卯m B) a byddant yn ymuno ag ysgolion eraill y DU ar gyfer y rowndiau terfynol a gynhelir ym Mhrifysgol 精东传媒 ym mis Mehefin eleni.
Aeth yr ail wobr hefyd i Ysgol Ruthin (T卯m A) a'r drydedd wobr i Ysgol Bishop Heber o Swydd Gaer.
Bydd y t卯m buddugol o Ysgol Ruthin (T卯m B) yn ymuno ag ysgolion eraill y DU ar gyfer y rowndiau terfynol a gynhelir ym Mhrifysgol 精东传媒 ym mis Mehefin eleni. Meddai Dr Andrew Davies trefnydd y digwyddiad: "Gwnaed argraff dda iawn arnom gan frwdfrydedd a safon uchel y cystadleuwyr eleni. Dymunwn bob lwc i Ysgol Ruthin ar gyfer y rownd derfynol ym mis Mehefin.
Cynhelir y rownd derfynol genedlaethol ar gyfer y Gystadleuaeth bwysig hon yn y DU ym Mhrifysgol 精东传媒 eleni ar 20 a 21 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018