Charg茅 d鈥橝ffaires Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld 芒 Phrifysgol 精东传媒
Bu dirprwyaeth o llysgenhadaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld 芒 Phrifysgol 精东传媒 yn ddiweddar. Yn eu plith oedd Charg茅 d鈥橝ffaires y Llysgenhadaeth, Madame Marie-Louise Kafenge Nanga, a oedd yn awyddus i archwilio Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol a鈥檜 dogfennau yn ymwneud 芒鈥檙 Parchedig William Hughes a鈥檙 Congo Training Institute ym Mae Colwyn.
Madame Marie-Louise Kafenge Nanga ac aelodau o'i dirprwyaeth yn archifau'r BrifysgolGaned y Parchedig William Hughes ym 1856 yn Rhoslan, Eifionydd ac yn dilyn cyfnod fel cenhadwr yng nghyfandir Affrica, sefydlodd y Congo Training Institute ym Mae Colwyn yn 1885. Fel y nododd Hughes yn ei lyfr, Dark Africa and the way out; or, A scheme for civilizing and evangelizing the dark continent (1892): 鈥楾he Congo Training Institute was established with the view of training African young men in this country, in the hope that many of them will return to their native land either as missionaries, schoolmasters or useful handicraftsmen 鈥� such as carpenters, blacksmiths, masons, bricklayers, wheelwrights, tailors etc.鈥�
Ar 么l mynd i ddyled sylweddol ac yn dilyn sgandal yng ngwasg anoleuedig y cyfnod, daeth diwedd ar yr Institute yn 1911.
Meddai Elen Simpson, Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol:
鈥楳ae gennym nifer o ddogfennau yn ymwneud 芒鈥檙 Parchedig William Hughes a鈥檙 Congo Training Institute yn ein archif, gan gynnwys adroddiadau blynyddol sy鈥檔 cynnig cip i ni ar yr 鈥榟yfforddiant鈥� oedd yn cael ei ddarparu ar gyfer y 鈥楥ongo boys鈥� a hefyd manylion ynghylch y gefnogaeth yr oedd y sefydliad yn ei dderbyn gan unigolion amrywiol pan yr oedd yn ei anterth. Roedd cael dangos y dogfennau hyn i Madame Kafenge Nanga a鈥檌 dirprwyaeth yn bleser ac yn anrhydedd o鈥檙 mwyaf.鈥�
Nid yw hanes William Hughes a鈥檌 sefydliad yn hysbys gan lawer yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo heddiw. Trefnwyd yr ymweliad hwn gan Norbert Mbu-Mputu, bardd ac awdur o Congo sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd ac sy鈥檔 ceisio ailgloriannu鈥檙 berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Congo fel rhan o broject sydd wedi ei noddi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2016