Codi tua鈥檙 entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Mae athletwraig leol sy鈥檔 ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol 精东传媒 wedi dychwelyd o鈥檙 European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl 芒 medal arian yn y 鈥榮natch lift鈥� a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.
Catrin Jones, sy鈥檔 ddisgybl yn Ysgol Friars, 精东传媒, yw deiliad Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford ar gyfer 2016/17. Mae鈥檙 fwrsariaeth yn galluogi athletwr neu athletwraig lleol i ddefnyddio鈥檙 cyfleusterau yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon a ffitrwydd y Brifysgol, fel rhan o鈥檜 rhaglen hyfforddi.
脗 hithau mewn cystadleuaeth galed yn erbyn cystadleuwyr o wledydd megis Twrci, Azerbaijan a Bwlgaria 鈥� gwledydd adnabyddus ym maes codi pwysau 鈥� cafwyd perfformiad clodwiw gan Catrin yn nhref Nowy Tomy艣yl yng Ngwlad Pwyl yn ystod 9 鈥� 17 Medi. Enillodd ei medal arian wedi iddi godi 65kg yn y dull 鈥榮natch鈥�. Yn dilyn perfformiad da arall yn y dull 鈥楥lean & Jerk鈥�, enillodd Catrin le ar y podiwm a derbyn medal efydd yng nghategori Merched 48kg.
Mae Catrin wedi hen arfer 芒 sefyll ar y podiwm fodd bynnag. Ym mis Medi y llynedd llwyddodd i gipio鈥檙 fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa a hi bellach yw pencampwraig bresennol Cymru, pencampwraig Ieuenctid a H欧n y DU a phencampwraig a deilydd record Dan-18 a Dan-20 y DU. Cystadleuaeth nesaf Catrin yw Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Malaysia ac mae鈥檔 anelu at gystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.
Am fwy o wybodaeth yngl欧n 芒 rhaglen Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch sut i ymgeisio, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016