Cofiwch ddweud Su'mae?
Mae鈥檙 Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i groesawu ei gilydd yn Gymraeg ar dydd Mawrth Hydref 15: Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae!
Nod y diwrnod yw dangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac y gallwn ni i gyd ddefnyddio鈥檙 Gymraeg sydd gennym drwy鈥檙 flwyddyn 鈥� yn y siop, yn y ganolfan hamdden, yn y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau 鈥� ymhob man. Dyma gyfle i wneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus 鈥� a lle gwell i ddechrau na gyda鈥檙 ffordd ry鈥檔 ni鈥檔 cyfarch ein gilydd!
Bydd Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae! yn gyfle euraidd i atgyfnerthu鈥檙 gefnogaeth eang sydd yng Nghymru i'r Gymraeg a dathlu鈥檙 amrywiaeth o ffyrdd y byddwn ni鈥檔 cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru heddiw.
O dan y faner 鈥楧od a Cynaliadwyedd yn Fyw鈥� bydd y Brifysgol yn hyrwyddo鈥檙 diwrnod ar draws y campws er mwyn cael pawb i gyfarch ei gilydd yn Gymraeg a 鈥榙od a鈥檙 Gymraeg yn fyw鈥�.
Bydd 10% o ddisgownt yn cael ei gynnig ar baned o de neu goffi yn holl fannau arlwyo'r Brifysgol os byddwch yn defnyddio鈥檙 Gymraeg. Gyda help y clipiau sain yma ar y dudalen Cymorth Cymraeg, beth am i chi annog pawb i ddweud Shwmae neu Su'mae?
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2013