Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol 精东传媒
ch-dd: Cadeirydd RCSLT, Della Money; Prif Weithredwr RCSLT, Kamini Gadhok MBE; Is-Gadeirydd RCSLT, Mary Heritage; Delyth Prys, Canolfan Bedwyr; Noddwr yr RCSLT, EHB Iarlles Wessex; Stefano Ghazzali a Dewi Bryn Jones o Ganolfan Bedwyr a Llywydd RCSLT Nick Hewer. Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau鈥檙 RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr 鈥淕iving Voice鈥� i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai鈥檔 gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniat谩u bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a鈥檌 ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dywedodd y beirniaid y byddai hyn yn trawsffurfio bywydau pobl gyda chlefyd niwronau echddygol neu ganser y pen a鈥檙 gwddf. Roeddynt yn canmol hefyd y ffordd yr oedd y t卯m wedi llwyddo i gael cyhoeddusrwydd cenedlaethol i鈥檙 project, ac wedi dod ag anghenion pobl gydag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu i sylw鈥檙 cyhoedd ehangach.
Enwebwyd y tri gan Rhian Wyn, Therapydd Iaith a Lleferydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a fu鈥檔 gweithio gyda nhw ar y project Lleisiwr. Eglurodd Rhian: 鈥淓r bod gwasanaethau bancio llais ar gael ers dipyn i bobl drwy gyfrwng y Saesneg, 鈥榙an ni fel therapyddion iaith yn gwybod bod angen un trwy鈥檙 Gymraeg hefyd a bod eisiau鈥檙 ddwy iaith ar y cleifion yma sy鈥檔 siarad Cymraeg鈥�. Dywedodd hefyd fod y gwaith wedi cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen S4C o鈥檙 enw 鈥淎chub Llais John鈥� yn dilyn claf oedd wedi cael larynjectomi ac ei weld yn datblygu ei lais personol ei hun, ac ychwanegedd: 鈥淢ae wedi bod yn fraint cael gweithio hefo鈥檙 t卯m ac enwebu nhw am y wobr yma鈥�. Gellir gweld copi o鈥檙 fideo byr ddarlledwyd ar waith y tri yn y noson wobrwyo ar .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019