Colociwm Celto-Slavica yn dod i Fangor
Heddiw (Iau), a than ddiwedd y penwythnos, bydd Prifysgol 精东传媒 y croesawu academwyr amlwg o hyd a lled Ewrop, a 7ed Colociwm Societas Celto-Slavica yn ymweld 芒 精东传媒, 4-7 Medi.
Gweler y rhaglen lawn
Sefydlwyd Societas Celto-Slavica rai blynyddoedd yn 么l er mwyn hyrwyddo cydweithrediad rhwng ysgolheigion o Iwerddon / gwledydd Prydain sy鈥檔 ymddiddori yn yr ieithoedd Celtaidd ac ysgolheigion o gyffelyb fryd o鈥檙 gwledydd Slafaidd. Dyma鈥檙 tro cyntaf i鈥檙 gymdeithas hon gynnal ei cholociwm yng Nghymru ac fe wnaed hynny drwy wahoddiad (Prifysgol 精东传媒) a鈥檙 Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.
Bydd nifer o鈥檙 cyfranwyr yn lleisiau cyfarwydd oddi ar y cyfryngau Cymraeg 鈥� nid yn unig y ffigurau amlwg o Ysgol y Gymraeg ei hun, Peredur Lynch ac Angharad Price, ond hefyd Elena Parina, sy鈥檔 gweithio ym Moscow a Marburg ac yn cyfrannu鈥檔 aml i raglenni materion cyfoes Cymraeg.
Caiff papurau eu traddodi ar ystod eang iawn o bynciau, o鈥檙 dystiolaeth gynharaf am yr ieithoedd Celtaidd a hanes eu datblygiad hyd y dwthwn hwn, i gymariaethau o sefydliadau cymdeithasol y gwledydd Celtaidd a鈥檙 India gynnar. Clywir am brosiect cyfredol i gyfieithu鈥檙 Mabinogi i Hen Rwsieg, yn ogystal 芒 thrafodaethau ar agweddau hollol gyfoes o鈥檙 ieithoedd a鈥檙 llenyddiaethau Celtaidd: sonnir am agwedd Emrys ap Iwan at Imperialaeth Brydeinig, ac am y ffordd y bu i brofiadau T.H. Parry-Williams yn y Rhyfel Byd Cyntaf effeithio ar ddatblygiad ll锚n Cymru yng ngweddill y ganrif.
Traddodir y papurau yn Gymraeg (gyda chyfieithu ar y pryd) ac yn Saesneg.
Ymholiadau: aled.llion@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2014