鈥楥oroni鈥檙 Wythnos鈥�
Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig ohoni yn seremoni a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr 鈥榊 Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg鈥� (2018) i鈥檙 cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.
Ymgais i ennyn cydweithio rhwng pedwar sefydliad cerddorol yng Ngogledd Cymru fu鈥檔 sail ac yn gychwyn i鈥檙 cynllun opera hwn. Ei nod oedd dwyn arbenigedd Ysgol Cerddoriaeth (Prifysgol 精东传媒), OPRA Cymru, a Chanolfan Gelfyddydol Pontio (Prifysgol 精东传媒) ynghyd er mwyn llwyfanu cynhyrchiad eiconig a fyddai wedi ei wreiddio yng Ngwynedd ond a fyddai yn denu sylw ac ap锚l cenedlaethol. Gyda chymorth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, comisiynwyd y cyfansoddwr Gareth Glyn, sy鈥檔 Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol 精东传媒, i lunio鈥檙 gerddoriaeth a鈥檙 Prifardd Mererid Hopwood i ddarparu鈥檙 libreto sy鈥檔 seiliedig ar nofel wyddonias Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd (Llandysul: Gwasg Gomer).
Fel cyn-fyfyriwr o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, 精东传媒 amserwyd y daith hon i ddathlu trigain mlynedd ers cyhoeddi gwaith Islwyn Ffowc Elis ac i ddwyn neges hynod amserol y nofel hon unwaith yn rhagor i sylw ei gyd-genedl. Cyfrannodd yr opera yn ddi-os, i鈥檙 adfywiad ym myd y cyfrwng sydd ar droed yng Nghymru heddiw a鈥檙 gobaith yw y bydd cyfleoedd eto i鈥檙 to ifanc o berfformwyr (yn gantorion ac offerynwyr) fu鈥檔 rhan o鈥檙 fenter i ennill eu plwyf ar lwyfannau proffesiynol ein gwlad.
OPRA Cymru yw鈥檙 unig gwmni opera Cymraeg ei iaith yn y byd ac wedi llwyddiant y gorffennol a pherfformiadau o weithiau llwyfan Bizet, Rossini, Verdi a Donizetti bu鈥檙 perfformiadau o鈥檙 Wythnos, ynghyd 芒 gwaith cyfansoddwr o Gymru yn 2017 yn goron ar y cyfan. Patrick Young (cyn-Gyfarwyddwr, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr), dysgwr Cymraeg afieithus, sydd bellach yn byw yn Llan Ffestiniog, oedd sylfaenydd OPRA Cymru a hynny yn 2008. Ef yw鈥檙 un fu鈥檔 cyfarwyddo鈥檙 gwaith a sicrhau bod yr holl elfennau 鈥� y rhai cerddorol, y llenyddol, y llwyfanu a鈥檙 effeithiau theatrig 鈥� yn plethu鈥檔 un cyfanwaith effeithiol.
Y gerddorfa a fu鈥檔 cyfeilio i鈥檙 perfformiadau operatig oedd Ensemble Cymru sef ensemble sy鈥檔 arbenigo ar berfformio a hyrwyddo cerddoriaeth siambr Gymreig yng Nghymru a鈥檙 tu hwnt.
Dywed Patrick Young: 鈥楻oedd llwyfanu Wythnos yng Nghymru Fydd yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes OPRA Cymru, a thestun llawenydd i ni fel cwmni oedd cyflawni鈥檙 fath orchest a roes fod i Wobr Theatr Cymru eleni. Rwy鈥檔 rhagweld bod tri datblygiad cyffrous ar y gorwel: twf yn nifer y cynulleidfaoedd fydd yn mynychu perfformiadau operatig yng Nghymru; twf yn nifer yr operau gaiff eu cyfansoddi; ac, yn sail i hyn oll, y ddealltwriaeth gynyddol fod opera a鈥檙 iaith Gymraeg yn priodi鈥檔 gwbl naturiol ac yn eneidiau hoff gytun.鈥�
Dywed y cyfansoddwr Gareth Glyn: 鈥�Bu鈥檔 uchelgais gen i erioed i gyfansoddi opera Gymraeg, felly gwireddwyd breuddwyd pan ddaeth y cyfle i gydweithio gyda chynifer o sefydliadau ac unigolion ymroddedig a thalentog. Mae鈥檙 llwyddiant hwn yn goron ar y cyfan, ac yn arwydd calonogol a chadarnhaol tu hwnt at y dyfodol.鈥�
Dywed y libretydd Mererid Hopwood: 鈥楧iolch am y cyfle i ail-ymweld 芒鈥檙 nofel a cheisio cyflwyno ei neges obeithiol o鈥檙 newydd. 60 mlynedd wedi ei gyhoeddi gyntaf, mae gwaith Islwyn Ffowc Elis yn parhau鈥檔 gwbl berthnasol i ni, ac nid yr iaith Gymraeg yw鈥檙 unig beth sydd yn y fantol.鈥�
Dywed Peryn Clement-Evans (Ensemble Cymru): 鈥楳ae鈥檙 wobr yn gydnabyddiaeth i ymrwymiad digyfaddawd cerddorion Ensemble Cymru ac OPRA Cymru i berfformiadau o ansawdd. Rydym yn edrych ymlaen i barhau鈥檙 berthynas gydag OPRA Cymru er mwyn creu mwy o brofiadau ysbrydoledig i gynulleidfoedd yng Nghymru yn ogystal 芒 chreu gwaith o safon i berfformwyr Cymreig鈥�
Ffrwyth cydweithio parod fu鈥檙 opera hon a鈥檙 gobaith yw y bydd Wythnos yng Nghymru Fydd i鈥檞 gweld a鈥檌 chlywed eto ar un o brif lwyfannau Cymru ac y bydd neges ysgytwol yr opera, ynghyd 芒鈥檌 hartistiaid addawol, yn denu sylw鈥檙 cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018