Croesawu myfyrwyr rhyngwladol i Fangor
Casglodd y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr rhyngwladol o Faes Awyr Manceinion fel rhan o鈥檙 gwasanaeth cludo myfyrwyr eleni.
Roedd deuddeg bws a dwsinau o wirfoddolwyr ar gael i gyfarfod y myfyrwyr yn y maes awyr ac yna i鈥檞 helpu gyda鈥檜 holl fagiau wrth iddynt gyrraedd 精东传媒. Roedd bysus-mini yr Undeb hefyd yn brysur yn mynd 芒鈥檙 myfyrwyr i鈥檞 llety, gyda Bar Uno yn cael ei ddefnyddio fel man canolog ar gyfer bwyd, adloniant a chymdeithasu ar y diwrnod.
Derbyniodd oddeutu 400 o fyfyrwyr rhyngwladol raglen gynefino arbennig yr wthnos cyn y prif Wythnos Groeso 鈥� gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr holl weithgareddau a phroses gofrestru yr wythnos ganlynol. Roedd rhaglen y cynefino cynnar yn cynnwys teithiau bws a cherdded, taith i Eryri, darlith ar hanes a diwylliant Cymru yn ogystal a nosweithiau bingo a thwmpath!
I鈥檙 holl fyfyrwyr rhyngwladol 鈥� gobeithio eich bod wedi mwynhau digwyddiadau鈥檙 rhaglen groeso a phob hwyl ar gyfer gweddill eich cyfnod ym Mangor!
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016