Cyhoeddi Swyddi Darlithio Cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn dilyn sefydlu鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol 精东传媒 wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw鈥檙 penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.
Dywedodd Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol 精东传媒: 鈥楳ae鈥檙 penodiadau hyn yn arwydd pendant o鈥檔 hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i鈥檞 groesawu鈥檔 fawr鈥�.
Brodor o Lyndyfrdwy ger Corwen yw鈥檙 Dr. Owain Llwyd. Mae鈥檔 arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm modiwl a fydd ar gael fel dewis i fyfyrwyr cerddoriaeth o hyn ymlaen. Yn dilyn cyhoeddi casgliad o gryno ddisgiau o gerddoriaeth llyfrgell dan adain cwmni Boosey and Hawkes, clywir ei weithiau ar raglenni fel The X-Factor (ym Mhrydain ac yn Ewrop) a Top Gear ac ar sawl hysbyseb deledu. Daw Owain i鈥檙 Brifysgol wedi cyfnod o brofiad yn gweithio fel cyfansoddwr yn y diwydiant ffilmiau yn Llundain. Cyn hynny yr oedd yn ddeiliad ysgoloriaeth ymchwil o dan nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sydd bellach wedi ei hymgorffori o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cerddoriaeth boblogaidd Gymreig yw arbenigedd Dr. Craig Owen Jones ac fel rhan o鈥檌 waith fel Cymrawd Dysgu (cymrodoriaeth a noddwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch) yn yr Ysgol Cerddoriaeth, sefydlodd Archif Bop Cymru sy鈥檔 adnodd ar gyfer ymchwilwyr ym Mangor a thu hwnt. Ar hyn o bryd, mae鈥檔 cwblhau cyfrol ar fyd canu pop ac mae鈥檔 awyddus iawn i glywed gan berfformwyr a chyn-berfformwyr yn y maes. Cyhoeddodd eisoes nifer o erthyglau gan gynnwys ymdriniaeth 芒鈥檙 traddodiad yng Nghymru yn y 1960au a鈥檙 70au.
Mae鈥檙 ddau benodiad uchod yn rhan o gyfres o benodiadau eraill a wneir ym Mhrifysgol 精东传媒 yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cynnwys penodiadau yn yr Ysgolion Cemeg, Seicoleg, Ieithoedd Modern, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Cymdeithas 鈥� a鈥檙 cyfan wedi鈥檜 hariannu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd y Dr. Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 鈥� Mae鈥檙 Coleg yn croesawu鈥檙 penodiadau yma yn fawr iawn, nid yn unig am mai dyma鈥檙 cyntaf i鈥檞 cadarnhau o dan nawdd cynllun staffio鈥檙 Coleg, ond hefyd yn sgil y ffaith i Dr Owain Llwyd a Dr Craig Owen Jones fod yn gysylltiedig 芒 chynlluniau i feithrin academyddion cymwys i鈥檞 penodi i swyddi darlithio. Yr ydym yn llongyfarch Owain a Craig ar eu penodiadau, gan nodi fod cynlluniau ar y gweill i alluogi myfyrwyr mewn prifysgolion eraill i ddilyn modiwlau a fydd yn cael eu cynnig ganddynt.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012