Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr 精东传媒 yn cefnogi Cronfa Goffa Gwyn Thomas
鈥楩ore Mercher, 14 Mawrth 2018, caed achlysur anffurfiol ond hyfryd yn Neuadd Pritchard Jones. Yno y cyfarfyddais 芒 thair o gynheiliaid Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr sef Mrs Annis Milner, Mrs Ella Owens a Mrs Ann Roberts a chael tynnu ein llun i gofnodi鈥檙 achlysur. A鈥檙 gymdeithas bellach wedi ei dwyn i ben, penderfynodd ei haelodau drosglwyddo鈥檙 swm sylweddol a oedd yn weddill yn ei chyfrif banc i Gronfa Goffa Yr Athro Gwyn Thomas. Ac yntau鈥檔 gyn-bennaeth yrAdran y Gymraeg ac yn un o gyn-fyfyrwyr enwocaf 精东传媒, bu Gwyn yn aelod ffyddlon o鈥檙 gymdeithas ar hyd y blynyddoedd. Lansiwyd y gronfa goffa yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, dri mis ar 么l ei farw, ac ers hynny derbyniwyd cyfraniadau hael er cof amdano gan amryw o鈥檌 gyn-fyfyrwyr, ei gyfeillion a鈥檌 gydnabod. Bydd y gronfa yn ein galluogi i gefnogi a gwobrwyo myfyrwyr presennol Adran y Gymraeg a thrwy hynny gadw enw a gwaddol Gwyn yn fyw ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥�
Yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Adran y Gymraeg
Er bod Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr bellach wedi dod i ben, mae rhai aelodau yn dal i gyfrannu iddi鈥檔 flynyddol drwy archeb banc. Gofynnwn yn garedig i鈥檙 aelodau hynny drefnu gyda changen banc HSBC 精东传媒 eu bod yn terfynu eu harcheb cyn gynted 芒 phosib, os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2018