Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol 精东传媒 yn cyflwyno trasiedi hanesyddol ac eiconig Saunders Lewis, Siwan
Cyfieithwyd gan Joseph P Clancy
Bydd Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol 精东传媒 yn llwyfannu cynhyrchiad o鈥檙 drasiedi Siwan gan Saunders Lewis ar y 23ain a'r 24ain o Dachwedd am 7:30pm, yn Theatr Bryn Terfel, Pontio.
Dywedodd Ryan Neil Proudlove, sy'n chwarae rhan Llywelyn "Heb wybod dim am y ddrama yn flaenorol, mae wedi agor fy llygaid i arddull huawdl a barddonol Saunders Lewis. Mae'r perfformiad hwn yn cyflwyno pob cymeriad ynghyd 芒鈥檜 dyheadau a鈥檜 brwydrau yn grefftus. Bydd y gynulleidfa yn cydymdeimlo gyda chymeriad trasig Llywelyn, ond gall ei gariad tragwyddol tuag at Siwan effeithio ar ei natur."
Dywedodd y cyfarwyddwr, Jessica Lauren Foster, "Rwyf wrth fy modd ein bod am gyflwyno cyfieithiad Saesneg o Siwan. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chast mor dalentog, ar beth rwy鈥檔 credu yw drama fwyaf Cymru. Wedi ei lleoli yn Nheyrnas Frenhinol Gwynedd, ar noswyl o Fai yn 1230, mae Siwan, plentyn siawns Brenin John a gwraig Llywelyn Fawr yn gwneud dewis sy鈥檔 arwain at golli ei rhyddid a鈥檌 chariad, a hynny dros Guillame de Barose, Arglwydd y Gororau. Mae鈥� r ddrama hanesyddol hon yn archwilio them芒u cariad, chwant, maddeuant ac unigrwydd."
Nos Fercher 23 / Nos Iau 24 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel, Pontio, 精东传媒
拢5/拢6
Tocynnau o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016