Cynhadledd - Boddi Mewn Celfyddyd
Cynhadledd Ysgol Cerddoriaeth ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 精东传媒 a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13 鈥� 14 Mehefin 2015, Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Llanuwchllyn
Siaradwyr Gwadd: Dafydd Iwan a Manon Eames
Wedi blynyddoedd o ddymchwel a phrotestio, yn 1965, daeth y d诺r i foddi Cwm Celyn, gan foddi diwylliant, hanes bro a thraddodiad yn ei sgil.
Ond esgorodd dicter a thor calon y genedl nid yn unig ar ddeffroad gwleidyddol, ond hefyd deffroad celfyddydol wrth i genhedlaeth o Gymry ganfod dull o fynegi eu dirmyg trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, drama a chelf.
A hithau bellach yn hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfle i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi鈥檙 gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi鈥檙 cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nepell o Dryweryn. Fel rhan o鈥檙 gynhadledd, bydd cyfle i ymweld 芒 Thryweryn, yn ogystal 芒 mwynhau detholiad o鈥檙 ddrama a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru, Porth y Byddar gan Manon Eames, a hynny o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor, sy鈥檔 hanu o鈥檙 Bala.
Yn ystod y gynhadledd, traddodir darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a bydd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a鈥檙 cynnyrch celfyddydol a gr毛wyd yn ei sgil.
Am fwy o wybodaeth, a phe dymunech ymuno 芒 ni, a fyddech cystal 芒 , ei llenwi a鈥檌 hanfon yn 么l i boddi.mewn.celfyddyd@bangor.ac.uk. Edrychwn ymlaen i鈥檆h gweld yno!
Trefnwyr y Gynhadledd: Dr Gwawr Ifan a Dr Manon Wyn Williams
Noddir y gynhadledd hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol 精东传媒.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015