Darlith Goffa Syr Hugh Owen 2017: 鈥楥uro鈥檔 hyderus ar y drws tri-enw: golwg ar le鈥檙 Gymraeg yn adolygiad Donaldson鈥�, Yr Athro Mererid Hopwood
Dwyieithrwydd ac adolygiad Donaldson o鈥檙 cwricwlwm addysg fydd pwnc Darlith Goffa Syr Hugh Owen a draddodir gan yr ieithydd, yr awdur a鈥檙 prifardd Mererid Hopwood ym Mhrifysgol 精东传媒 ar nos Fercher 22 Chwefror am 6pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Teitl y ddarlith yw 鈥楥uro鈥檔 hyderus ar y drws tri-enw: golwg ar le鈥檙 Gymraeg yn adolygiad Donaldson鈥�, ac mae croeso i bawb. Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, a chyflwynir y darlithydd gan yr Athro Enlli Thomas, Pennaeth yr Ysgol Addysg yn y Brifysgol.
Bydd yr Athro Hopwood yn trafod Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad annibynnol o鈥檙 cwricwlwm a鈥檙 trefniadau asesu yng Nghymru a gynhaliwyd yn ddiweddar gan yr Athro Graham Donaldson, a bydd yn archwilio鈥檙 potensial sydd i鈥檙 Gymraeg chwarae rhan allweddol y tu hwnt i鈥檙 鈥楳aes Dysgu a Phrofiad鈥� a ddisgrifiwyd ganddo.
Gan feddwl am nod o 鈥榝iliwn o siaradwyr Cymraeg鈥�, bydd yr Athro Hopwood yn ystyried pa fath o newidiadau cadarnhaol y gellid eu gwneud trwy fabwysiadu dull gweithredu mwy hollgynhwysol at ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ddwyieithrwydd fel cyfrwng a all gynorthwyo鈥檔 sylweddol i gyflawni pedwar diben craidd y cwricwlwm newydd, a bydd yn gofyn beth mae bod 鈥榓r daith dwyieithrwydd鈥� yn ei olygu.
Mae gan Mererid Hopwood Gadair yn y Gyfadran Addysg a Chymunedau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae wedi ennill y Gadair a鈥檙 Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoni yn ogystal ag ennill y Fedal Ryddiaith. Bu yn Fardd Plant Cymru ac mae wedi ennill Gwobr Glynd诺r am ei chyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru. Daeth ei chasgliad o gerddi Nes Drawi鈥檙 brig yn adran farddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2016.
Cyflwynir y ddarlith ar y cyd 芒 Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 public.lectures@bangor.ac.uk.

Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017