Darlith: 鈥楾he strange death of British higher education鈥�
Wrth i Gymru a gwledydd datganoledig eraill Prydain ddatblygu eu polis茂au eu hunain yn ymwneud ag addysg Brifysgol, bydd Yr Athro Syr Deian Hopkin yn rhoi darlith gyhoeddus amserol ar 鈥�The strange death of British higher education鈥� ym Mhrifysgol 精东传媒 am 6.30 ddydd Iau, 31 Mawrth, ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau yn y Brifysgol. Gwahoddir pawb i鈥檙 ddarlith hon, a fydd yn ein hysgogi i feddwl, ac ar y diwedd bydd cyfle i drafod rhai o鈥檙 materion a godwyd.
Yn 么l Yr Athro Syr Deian Hopkin: 鈥淩ydym yn sefyll ar drothwy cyfnod o newid eithriadol mewn addysg uwch, na welwyd ei debyg ers sefydlu鈥檙 Pwyllgor Grantiau Prifysgol yn 1919. Beth mae鈥檙 newid hwn yn ei olygu mewn gwirionedd ac a fydd dulliau tra gwahanol Cymru, Yr Alban a Lloegr o ymdrin ag addysg uwch yn golygu diwedd 鈥渁ddysg uwch Brydeinig鈥� fel rydym ni wedi鈥檌 hadnabod?"
Prin y cafodd cyflwr prifysgolion Prydain ac addysg uwch, a鈥檙 rhagolygon sydd iddynt, gymaint o sylw ag y maent yn ei gael ar hyn o bryd. Wrth i doriadau sylweddol mewn cyllideb addysg uwch gael eu gweithredu gan bob un o bedair llywodraeth y DU, a鈥檙 ffaith y bydd y newidiadau arfaethedig i reoliadau fisa yn debygol o effeithio ar lif myfyrwyr tramor i wledydd Prydain, mae pob rhan o鈥檙 DU yn delio 芒鈥檌 haddysg uwch mewn gwahanol ffordd. Yn arbennig, mae mater ffioedd dysgu, a lefel cefnogaeth ariannol uniongyrchol gan y llywodraeth ar gyfer addysg uwch, wedi dod yn faterion lle gwelir cryn wahaniaeth rhwng Lloegr, Yr Alban a Chymru. Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 dilysrwydd y term 鈥榓ddysg uwch Brydeinig鈥� erbyn hyn. Beth yw鈥檙 rhagolygon ar gyfer addysg uwch yn y DU? Sut fydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar safle rhyngwladol prifysgolion? Wrth i gydbwysedd cyfrannu ariannol symud oddi wrth y Wladwriaeth at yr unigolyn, a oes yna berygl y caiff yr hen syniad o addysg fel lles cyhoeddus gael ei aberthu er mwyn meithrin y syniad o ennill neu elw personol? A phwy, yn y pen draw, fydd yn elwa?
Treuliodd Deian Hopkin 44 mlynedd yn dysgu, ymchwilio a rheoli mewn addysg uwch. Bu鈥檔 gweithio mewn pum prifysgol, rhai cyn- ac 么l-1992, yn cynnwys 24 mlynedd yn Aberystwyth. Bu鈥檔 Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank Llundain ac yn Is-Ganghellor dros dro ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain. Yn 2009 cynhaliodd adolygiad annibynnol ar ran y llywodraeth i berfformiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac, yn 2010, fe鈥檌 penodwyd yn Gadeirydd interim y cwmni hwnnw. Mae鈥檔 aelod o鈥檙 Comisiwn Addysg Uwch holl-bleidiol, a sefydlwyd yn ddiweddar, ac yn Gadeirydd yr Uned Polisi Economi Leol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011