Darlithydd ym Mangor yn cyfeilio ar ymgyrch hysbysebu Cwpan y Byd McDonald鈥檚
Owain Llwyd yn canu'r piano tryloyw ym Mhrag.Gellir clywed darlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol 精东传媒 yn canu鈥檙 piano ar ymgyrch hysbysebu ar y we, ac mae wedi cael ei wylio dros bum miliwn o weithiau ar YouTube yn barod.
Drwy ei gysylltiadau, cafodd Owain Llwyd, sy'n ddarlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol 精东传媒, y cyfle i weithio fel pianydd sesiwn i鈥檙 hysbyseb yn Stiwdio Air Edel, Llundain.
Bu Owain yn canu鈥檙 piano ar ail-recordiad o g芒n o鈥檙 1940au, 'Oh By Jingo', ac a recordiwyd yn fyw gan ddefnyddio meicroffonau o鈥檙 cyfnod hwnnw.
Meddai Owain:
"Roedd cymryd rhan yn y sesiwn recordio McDonald鈥檚 yn llawer o hwyl, ac mae'r hysbyseb yn wych! Fel un sy鈥檔 cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu, roedd yn gyfle gwych i mi fedru cyfuno fy nghyfansoddi a darlithio gyda gweithio 芒 cherddorion a cherddorfeydd yn y stiwdio recordio. Mae鈥檙 profiadau hyn yn bwydo i mewn i鈥檞 gilydd, gan sicrhau fy mod yn cyfansoddi鈥檙 math o gerddoriaeth y mae pobl eisiau ei chlywed a rhannu鈥檙 ddealltwriaeth honno gyda chyfansoddwyr a cherddorion y dyfodol yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol 精东传媒."
Mae鈥檙 hysbyseb yn dilyn hynt p锚l-droed sy鈥檔 teithio o amgylch Rio de Janeiro wrth i bobl o bob oedran wneud gwahanol gampau gyda鈥檙 b锚l cyn ei chicio ymlaen. Mae鈥檙 gerddoriaeth yn cyd-fynd 芒鈥檙 naws dathlu llawn hwyl.
Nid dyma鈥檙 tro cyntaf i Owain gamu i faes recordio hysbysebion, oherwydd yn ddiweddar bu鈥檔 canu鈥檙 piano a 鈥榙yblu鈥� fel dwylo鈥檙 actor Jan Ctvrtnik yn hysbyseb diweddaraf y gwneuthurwyr ff么nau symudol, Huawei.
Treuliodd Owain wythnos ym Mhr芒g ar gyfer y recordiad hwnnw a wnaed mewn hangar awyrennau. Bu Owain yn canu piano 'tryloyw' gwerth dros 拢100K oedd 芒鈥檌 swyddog diogelwch ei hun. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth fachog gan y cyfansoddwr llwyddiannus o Brydain, Tom Player, y bydd Owain yn cydweithio gydag ef yn rheolaidd.
Bu Owain yn gweithio gyda Tom hefyd ar y g芒n lwyddiannus 鈥極nly You鈥� gan y band Yazoo ar gyfer .
Bydd Owain yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer o brojectau i鈥檙 cyfryngau yn ystod yr haf, mae hefyd yn cyfarwyddo gweithdai cyfansoddi ar y cyd 芒 Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mhrifysgol 精东传媒 ac yn trefnu sioe gerdd. Mae鈥檔 gwneud trefniannau ar gyfer pedair c芒n gan Casi Wyn ar gyfer Proms yn y Parc gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, a gynhelir ym Mharc Singleton, Abertawe, ar 13 Medi. Caiff y perfformiad ei ddarlledu'n fyw ar BBC4 a bydd yn rhan o 'Noson Olaf y Proms鈥� y BBC o鈥檙 Royal Albert Hall.
Mae Owain hefyd wedi cynhyrchu CD o gyfansoddiadau addas i'w defnyddio gan y cyfryngau. Mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ym mhob rhan o鈥檙 byd mewn rhaglenni yn cynnwys 'BBC America', 'BBC yn y DU,' 'Sky', 'Channel 4,' 'ITV', 'Fox' ac ar raglenni megis 'The X-Factor,' 'Top Gear, ' US Open, '' Eurosport ' a 'Big Brother ' a llawer mwy.
Graddiodd Owain, sy'n enedigol o Lyn Dyfrdwy, o Brifysgol 精东传媒 a hefyd enillodd ei ddoethuriaeth yn Adran Gerddoriaeth y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2014