Darlithydd 鈥榶sbrydoledig鈥� ym Mangor i gario鈥檙 Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol 精东传媒 wedi cael ei dewis i gario鈥檙 Fflam Olympaidd ar 么l cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr.
Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, i鈥檙 categori 鈥榊sbrydoli Eraill trwy Addysg鈥� a bydd yn cario鈥檙 fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy 鈥� 15 milltir o Fangor 鈥� ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.Bydd darlithydd y Gyfraith Sarah Nason yn cario'r Fflam Olympaidd trwy Conwy ar 29 Mai
Ymunodd Sarah ag Ysgol y Gyfraith, 精东传媒 yn 2006, ar 么l gwasanaethu am gyfnod byr gyda鈥檙 Llynges Frenhinol ac yna ennill gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae鈥檔 fabolgampwraig frwdfrydig ac wedi ennill ei bri fel rhedwr marathon cyn troi at triathlon. Hi oedd yr ifancaf i gystadlu yn Uwch Driathlon Cymru 2008 ac yr adeg honno, dim ond yr ail ferch i gwblhau'r cwrs. Hefyd llwyddodd i gwblhau Triathlon Ironman y DU a hi oedd y person cyntaf erioed o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ultraman Canada, sy鈥檔 cael ei ystyried fel y triathlon anoddaf yn y byd.
Er gwaethaf ei gallu athletaidd, enwebwyd Sarah fel cydnabyddiaeth am ei gwaith dysgu, gyda myfyrwyr yn rhoi ei henw gerbron am fod yn 鈥渁cademydd ac athro ysbrydoledig鈥� ac yn 鈥渂atrwm ymddwyn eithriadol鈥�.
鈥淢ae cael eich enwebu i gymryd rhan yn trosglwyddo鈥檙 Fflam Olympaidd yn anrhydedd mawr ynddo'i hun, ond mae'n golygu gymaint mwy yn dod oddi wrth y myfyrwyr", meddai Sarah. 鈥淩wy鈥檔 falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu am fy nysgu yn hytrach nag am chwaraeon. Mae鈥檔 rhoi llawer iawn o foddhad bod y myfyrwyr yn elwa cymaint o'u profiad yn Ysgol y Gyfraith 精东传媒 ag yr ydym ni fel staff. Rwyf wedi gweld yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth yn ystod fy nghyfnod yma ac edrychaf ymlaen at weld beth sy鈥檔 dod nesaf. Yn y cyfamser, byddaf yn falch iawn o chwifio鈥檙 faner - neu鈥檙 fflam - i Brifysgol 精东传媒!鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012