Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd
Yr Athro Cynthia Pine yn cyflwyno yn y seminar ddeintyddol: 鈥楶reventing tooth decay in childhood: measuring the benefits and counting the cost.鈥�Cynhaliwyd seminar: "Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif" a drefnwyd gan y (CHEME) ym Mhrifysgol 精东传媒 yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd bod cost tynnu dannedd wedi costio dros 拢50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed.
Daeth prif ymchwilwyr mewn economeg iechyd ac iechyd cyhoeddus deintyddol o bob cwr o'r DU at ei gilydd yn y seminar hon i drafod, cyflwyno a gosod rhaglen ar gyfer dyfodol ymchwil gofal deintyddol. Cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Paul Brocklehurst, Cyfarwyddwr ym Mhrifysgol 精东传媒 ac Ymgynghorydd er Anrhydedd mewn ; Dr Dwayne Boyers o'r ym Mhrifysgol Aberdeen, yr Athro Cynthia Pine o Prifysgol Queen Mary Llundain a'r Dr. Victory Ezeofor o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol 精东传媒.
Roedd adroddiad gan yn 2018, yn nodi bod iechyd y geg mewn plant yn wael gyda'r cyfraddau dannedd drwg uchaf mewn plant 3, 5 a 12 oed. mewn plant ledled y Deyrnas Unedig gyda dros chwarter o blant pump oed yn dioddef pydredd mewn sawl dant. Mae hwn yn gost uchel y gellir ei osgoi i'r GIG, yn enwedig wrth ystyried mai dyna'r rheswm mwyaf cyffredin
Yr Athro Paul Brocklehurst yn cyflwyno yn y seminar ddeintyddol: 鈥楥hange in the Dental Landscape.鈥�pam bod plant yn ymweld ag Adrannau Brys mewn ysbytai.
Mae dannedd drwg mewn plant yn gysylltiedig 芒 thlodi gyda nifer o astudiaethau yn dangos bod iechyd y geg yn waeth mewn plant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Dyma un o'r dangosyddion anghydraddoldeb mwyaf nodedig mewn iechyd ar draws y DU.
Cododd y seminar gwestiynau pwysig yngl欧n 芒 mynediad i ofal deintyddol, darpariaeth mewn ysgolion a'r contract deintyddol, hynny yw, sut y telir deintyddion.
Pwysleisiodd yr Athro Paul Brocklehurst nad oes un ffordd benodol yn gweithio mewn gofal deintyddol ac awgrymodd bod angen newid sut caiff contractau llawdriniaethau deintyddol eu rheoli yn y GIG.
Cododd y Dr Dwayne Boyers y cwestiwn - a ddylai'r GIG dalu am fudd-daliadau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, megis yr agwedd gosmetig a chael sicrwydd trwy ddigennu a llathru dannedd mewn system gofal iechyd a gyllidir gan arian cyhoeddus, hyd yn oed os nad ydynt yn effeithiol yn glinigol ac yn angenrheidiol ond bod pobl yn eu gwerthfawrogi?
Dr Dwayne Boyers yn cyflwyno yn y seminar ddeintyddol: 鈥楨conomic evaluation in dentistry, using cost benefit analysis to widen the valuation space.鈥�Mae ymchwil yr Athro Cynthia Pine yn Tayside, yr Alban, wedi casglu data ar gyfer rhaglen brwsio dannedd ers bron i ddwy ddegawd. Bellach mae ganddynt ddata dilynol ar gyfer cyfranogwyr a ddechreuodd y rhaglen yn 5 oed ac sydd bellach yn oedolion 23 oed. Mae datblygu patrwm o frwsio dannedd o oed cynnar, fel rhan o drefn amser gwely wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar iechyd y geg a'u gofal deintyddol fel oedolion, gydag arbedion cost cysylltiedig.
Dywedodd Dr Victory Ezeofor a Dr Joanna Charles y dylai gwerthusiad economaidd iechyd o raglenni gofal deintyddol fod yn sail wybodaeth i gomisiynu gwasanaethau, ond mae defnyddio'r dull priodol i gasglu'r dystiolaeth yn heriol.
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol 精东传媒,
"Mae'r achos economaidd dros atal lleihau anghydraddoldebau iechyd a chostau y gellir eu hosgoi i'r GIG yn amlwg mewn gwasanaethau deintyddol".
Meddai, "Rydym yn awyddus i weithio gydag economegwyr iechyd eraill ledled y DU i ddatblygu'r dulliau mwyaf priodol i gofnodi'r costau a'r buddion o ymyriadau cyffredinol wedi'u targedu i blant er mwyn atal dioddefaint a chost diangen".
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019