Dawn yn hedfan wedi graddio!
Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i鈥檙 DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.
Yn awr yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Personol i Gyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 精东传媒, graddiodd Dawn yn ddiweddar gyda BA (Anrh) Astudiaethau Cymdeithasol.
鈥淩oeddwn yn wastad wedi meddwl y gallwn wneud yn well, ond 鈥檇oedd gen i ddim o鈥檙 dewrder i wneud unrhyw beth amdano. Ond, wedi mynd gyda鈥檓 merch i ddiwrnod agored mewn Prifysgol ac eistedd yn y ddarlithfa鈥檔 clywed am fanylion y cwrs, sylweddolais mai 鈥渄yma dwi isio鈥�. Wedi dod n么l, cofrestrais yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes ym Mangor ar gyfer gradd ran amser.鈥�
鈥淩hoddodd staff Dysgu Gydol Oes ysbrydoliaeth, gwybodaeth ac anogaeth i mi ar hyd y daith drwy astudio rhan amser. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth ac roedd help ar gael bob amser, pryd bynnag yr oedd gofyn amdano. Alla i ddim diolch digon i鈥檙 staff a鈥檙 tiwtoriaid am y cyfle a ges i wireddu f鈥檜chelgais o ennill y cymhwyster hwn.鈥�
Fel nifer o fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol 精东传媒, unwaith y maent wedi dechrau dysgu, mae鈥檔 amhosibl eu dal n么l ac mae Dawn yn awr ar fin dechrau ar radd Meistr mewn Arwain a Rheoli.
I gael gwybod mwy am raddau rhan amser, cysylltwch 芒 Dysgu Gydol Oes 01248 383668 neu ewch i鈥檙 wefan
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011