Denu arbenigwyr gwyddor gymdeithasol y dyfodol i Gymru
Dyfarnwyd miliynau o bunnau i brifysgolion blaenllaw Cymru er mwyn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf mewn amrediad o faterion sy鈥檔 effeithio ar gymdeithas y dyddiau hyn.
Bydd sefydlu Canolfan Hyfforddi Ddoethurol yn golygu y bydd modd cynnig 33 o ysgoloriaethau ymchwil i fyfyriwr 么l-raddedig yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Bydd y myfyrwyr 么l-raddedig yn derbyn hyfforddiant mewn amrediad o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi cymdeithasol, seicoleg, economeg, cynllunio amgylcheddol ac ieithyddiaeth.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain consortiwm Cymru ar y cyd ag Aberystwyth, 精东传媒 ac Abertawe i greu鈥檙 Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol, wedi鈥檌 hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd Prifysgol 精东传媒 yn arwain mewn tri maes pwnc yn y ganolfan, sef seicoleg, dwyieithrwydd ac economeg a chyllid, er y bydd pob myfyriwr doethuriaeth ym maes gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru鈥檔 elwa o gydweithrediad agosach rhwng y pedwar sefydliad.
Yn ogystal a鈥檙 pynciau a restrwyd uchod, mae鈥檙 meysydd pwnc eraill a fydd yn denu鈥檙 ysgoloriaethau ymchwil ag ariannu llawn, yn cynnwys addysg, daearyddiaeth ddynol, astudiaethau rheoli a busnes, gwyddor wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, troseddeg, cymdeithaseg, dwyieithrwydd, astudiaethau鈥檔 seiliedig ar ieithoedd ac astudiaethau empirig yn y gyfraith.
Bydd manylion llawn yngl欧n 芒鈥檙 ysgoloriaethau ymchwil a sut i wneud cais ar gael cyn bo hir ar wefannau鈥檙 prifysgolion cyfranogol.
Mae consortiwm Cymru yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 21 o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol ar draws y DG, yn cael eu barnu gan ESRC i ddarparu hyfforddiant gwirioneddol ragorol i fyfyriwr 么l-raddedig.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: 鈥淢ae鈥檙 cydweithio llwyddiannus hwn yn hwb i enw da Cymru yn rhyngwladol am ragoriaeth yn y gwyddorau cymdeithasol.
鈥淲rth ennill achrediad, mae Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru wedi dangos rhagoriaeth yn ehangder ei hyfforddiant yn y gwyddorau cymdeithasol i fyfyriwr 么l-raddedig, sy鈥檔 rhan o amgylchedd ymchwil o鈥檙 ansawdd gorau.鈥�
Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol 精东传媒, yr Athro Jo Rycroft-Malone: 鈥淏ydd trefniadau鈥檙 Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol yn ychwanegu agweddau newydd gwerthfawr at brofiad myfyrwyr 么l-raddedig wrth gynnig llwybrau mwy amrywiol, hyfforddiant uwch, a gwell cymorth. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol, ac mae 精东传媒 wrth ei bodd yn cyfranogi.鈥�
Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil yng Nghanolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru yn dechrau ym mis Hydref 2011. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ESRCWalesDTC@cardiff.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011