Dylunio鈥檙 Car 1000 milltir yr awr
Mae Prifysgol 精东传媒 yn cynnal darlith gyhoeddus sy鈥檔 rhan o鈥檙 gyfres 鈥楩finiau鈥� gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, am 6 o'r gloch ar 7 Mawrth ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Ysgol Peirianneg Electronig. Cyflwynir y ddarlith gan yr Athro Ken Morgan o Brifysgol Abertawe ac fe fydd yn siarad am ddylunio鈥檙 car uwchsonig, y Bloodhound.
Amcan Project Bloodhound SSC yw symud Record Cyflymder Tir y Byd i gyfundrefn cyflymder newydd sbon. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cynorthwyo鈥檙 broses o gynllunio cerbyd 芒 pherson ynddo a fydd yn gallu cyrraedd cyflymder o 1000mph erbyn 2012. Byddai hyn 30% yn uwch na鈥檙 Record gyfredol ar gyfer Cyflymder Tir y Byd sy鈥檔 763mph.
Mae鈥檙 Project yn cynnig heriau peirianyddol enfawr i鈥檙 t卯m cynllunio, gan gynnwys y broblem o sicrhau y bydd y car yn parhau'n sefydlog ar y cyflymder hwn. Bydd y ddarlith yn disgrifio natur y dulliau a ddefnyddir a鈥檙 cyfraniadau i鈥檙 cynlluniau aerodynameg sydd wedi鈥檜 gwneud.
Mae ymchwil yr Athro Morgan wedi cyfrannu at ddatblygu disgyblaeth peirianneg cyfrifiannol ac wedi newid y ffordd y mae'r diwydiant awyrofod yn defnyddio dulliau efelychu mewn gwaith dadansoddi a chynllunio peirianyddol
Mae'r ddarlith hon hefyd yn rhan o . Dywedodd yr Athro Alan Shore, Ysgol Peirianneg Electronig:
"Mae'r datblygiad technolegol cyffrous hwn yn dangos y gallu ym mhrifysgolion Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o aelodau'r cyhoedd yn dod draw i fod yn rhan o gyffro鈥檙 ymdrech. Bydd model o鈥檙 car yn cael ei arddangos fel y gall pawb 'gyffwrdd y dyfodol '. "
Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg, ond bydd cyfieithu ar y pryd i鈥檙 Saesneg ar gael. Noddir y ddarlith gan Brifysgol 精东传媒, y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru a鈥檙 project AU-STEM.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2012