Eurliw ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd
Eurliw Hydref Lloyd WilliamsMae Eurliw Hydref Lloyd Williams, 21, yn graddio o Brifysgol 精东传媒 wythnos yma gyda gradd yn y Gyfraith gyda鈥檙 Gymraeg.
Dywedodd Eurliw, a astudiodd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cyn dod i Fangor, 鈥淢ae鈥檔 deimlad penigamp i fod yn graddio eleni a chael cydnabyddiaeth am ffrwyth fy llafur. Mae鈥檙 holl waith caled yn sicr wedi talu ar ei ganfed ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at ddiwrnod arbennig fydd yn aros yn y cof am byth.
鈥淢ae鈥檔 benllanw blynyddoedd o weithio鈥檔 ddiwyd, nid yn unig yn y Brifysgol, ond yr holl flynyddoedd o addysg blaenorol sydd wedi arwain at yrfa yn y Brifysgol. Bydd yn ddiwrnod o hel atgofion, rhannu profiadau a sgwrsio am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd pawb yn gallu ymhyfrydu yn llwyddiant ei gilydd, ac mae鈥檔 gyfle euraid i ffarwelio 芒鈥檆h cyd-fyfyrwyr gan y bydd pawb, wedyn, yn diflannu i bedwar ban byd.
鈥淩oedd y ddarpariaeth o fodiwlau a seminarau cyfrwng Cymraeg yn bwysig iawn i mi, ac mae gan Fangor lawer iawn i鈥檞 gynnig. Roeddwn hefyd wrth fy modd fy mod i鈥檔 gallu astudio鈥檙 Gymraeg law yn llaw 芒鈥檙 Gyfraith gan fy mod yn ymwybodol iawn fod y ddwy ysgol yn cael eu cydnabod fel rhai llwyddiannus a chyfeillgar. Heb os nac oni bai, roedd y ffaith i mi hefyd dderbyn Ysgoloriaeth Rhagoriaeth gan y Brifysgol, yn sicr yn fodd o gadarnhau fy mhenderfyniad.
鈥淗offwn ddiolch yn ddiffuant iawn i staff Ysgol y Gyfraith ac Ysgol y Gymraeg am eu cyfarwyddyd, eu cefnogaeth a鈥檜 cyfeillgarwch yn ystod fy ngyrfa yn y Brifysgol.
鈥淒rwy gydol fy amser ym Mangor rwyf wedi bod yn mynd adref i weithio yn fy swydd rhan-amser mewn gwesty. Rwyf yn gweithio yno ers dros bedair blynedd a hanner ac mae fy nghyflogwyr wedi bod yn gefnogol iawn i鈥檓 gyrfa academaidd. Rwy鈥檔 teimlo bod gweithio wrth astudio yn bwysig iawn, nid yn unig er mwyn ennill arian ond er mwyn tynnu eich meddwl oddi ar eich gwaith academaidd am ychydig oriau. Gallwch fynd yn 么l at eich gwaith gyda meddwl ffres wedyn. Mae hefyd yn gyfle i fod yn rhan o fyd gwaith a chael perspectif ar fywyd y tu allan i鈥檙 Brifysgol.
鈥淩oeddwn yn aelod o Bwyllgor Staff a Myfyrwyr Ysgol y Gyfraith drwy gydol fy nhair blynedd ym Mangor, gan gynrychioli fy nghyfoedion a rhannu syniadau parthed sut i ddatblygu a gwella elfennau o鈥檙 adran. Yn fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran mewn prosiect ymryson a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth, a hynny er mwyn ymarfer sgiliau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan imi dderbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, fel rhan o hynny, cefais fynd am bythefnos o brofiad gwaith i swyddfa cyfreithwyr ym Mhorthmadog. Fe fwynheais y profiad hwnnw yn fawr, ac rwy鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 Coleg Cymraeg am drefnu hynny.
鈥淵r uchafbwynt i mi yw cael llwyddiant. Mae derbyn fy ngradd yn sicrhau parhad o鈥檓 uchelgais i ddilyn gyrfa ym myd y gyfraith.
Am y dyfodol, ychwanegodd Eurliw: 鈥淔y mreuddwyd ers pan oeddwn yn ddeg oed yw bod yn gyfreithwraig rhyw ddydd. Mae graddio o Brifysgol 精东传媒 yn golygu fy mod i wedi cyflawni un o鈥檙 camau cyntaf er mwyn gwireddu fy mreuddwyd. Y cam nesaf i mi yw mynychu Coleg y Gyfraith yng Nghaer o fis Medi ymlaen, gan astudio cwrs LPC 鈥� Tystysgrif Ymarferydd y Gyfraith. Y gobaith wedyn yw cael y cyfle i weithio gyda chwmni cyfreithiol yng ngogledd Cymru, gan fod fy ardal a鈥檙 iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Rwy鈥檔 mawr obeithio na fydd yn rhaid i mi fudo o ogledd Cymru er mwyn sicrhau swydd a cholli鈥檙 cyfle a鈥檙 pleser o gael gwasanaethu fy nghleientau yn y Saesneg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013