Full-time PhD Studentship
T芒l blynyddol: 拢14,000 y flwyddyn a ddarperir gan Drapers; telir y ffioedd goruchwylio gan y Brifysgol
PhD tair blynedd llawn-amser yn canolbwyntio ar:
Ailddarganfod tosturi a chydymdeimlad yn y gweithlu nyrsio: integreiddio estheteg i addysg a hyfforddiant nyrsio er mwyn gwella arferion gofal dementia.
Mae darparu gofal technegol o gymhlethdod cynyddol, ac ar yr un pryd gynnal dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y person a'r teulu yn y gwasanaethau dementia, yn gofyn am agweddau creadigol at addysg a hyfforddiant proffesiynol. Gall estheteg, megis defnyddio drama, celf a cherddoriaeth fod yn gatalydd i fyfyrio'n ddyfnach ar yr hunan, ac ar y modd y gellir defnyddio hynny'n emosiynol mewn sefyllfaoedd clinigol. O ganlyniad gall ymgorffori estheteg i raglenni datblygiad proffesiynol hyrwyddo clinigwyr i fynd i'r afael 芒'r broses o ddeall hunaniaeth bersonol, a'u hwyluso i ddarparu gofal tosturiol mewn cyd-destunau fel gofal lliniarol a gofal diwedd oes mewn ysbytai prif ffrwd a gwasanaethau cymunedol.
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 精东传媒 yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru i gynllunio a chyflwyno ffyrdd newydd a fydd yn gwella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae'r cyfle PhD hwn, a gefnogir gan y Drapers鈥� Company, yn enghraifft o'r cydweithio hwnnw, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau gweithredu arloesol ym maes gofal clinigol a fydd yn arwain at fudd uniongyrchol i brofiad y claf.
Cefnogir yr ymgeisydd llwyddiannus i lunio rhaglen ddoethur a fydd yn datblygu a gweithredu set o ddulliau newydd a chreadigol yn ymwneud 芒 datblygu鈥檙 gweithlu a鈥檙 sefydliad, a fydd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i werthuso'n feirniadol a datblygu eu cyfraniad i ofal dementia. Mae gan y PhD hwn y potensial i gael effaith sylweddol ar ansawdd gofal iechyd, ac mae'n ategu rhaglenni ymchwil eraill yr Ysgol sy'n ymdrin ag ansawdd mewn gofal iechyd, gan gynnwys y rhyng-gysylltiad rhwng estheteg a gofal iechyd.
Mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig cartref bywiog a chefnogol i'n myfyrwyr ymchwil dan ofal t卯m o oruchwylwyr academaidd; gofod swyddfa pwrpasol; seminarau a chynadleddau; a hyfforddiant mewn ymchwil ac arweinyddiaeth. Mae ein strategaeth ymchwil ar ffurf rhaglenni, yn cwmpasu amrediad o them芒u methodolegol a chlinigol, ac yn cynnwys rhaglen mewn gofal dementia. Mae ein darpariaeth ymchwil yn cynnwys Uned Treialon Clinigol sydd wedi'i hachredu'n llawn; Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, a'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau.
Am wybodaeth bellach neu drafodaeth anffurfiol yngl欧n 芒'r cyfle i ddilyn y PhD llawn-amser hwn fel rhan o'r bartneriaeth gyda Drapers Company, cysylltwch os gwelwch yn dda 芒:
Dr Si么n Williams
Uwch ddarlithydd / Cyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-radd trwy Ymchwil
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
01248-388451
E-bost:hss042@bangor.ac.uk
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2014
Er mwyn gwneud cais cwblhewch y ffurflen gais am PhD os gwelwch yn dda a nodwch fod y cais yn ymwneud 芒 chyllid a ddarperir gan Drapers:
Cofiwch ddarllen y Nodiadau Canllaw ar ymgeisio ar-lein cyn dechrau ar eich cais. Ar 么l i chi , dylech wneud eich cais gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Derbyniadau Ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar wneud cais, cysylltwch 芒'r Swyddfa Derbyniadau 脭l-raddedig:
e-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ff么n: (01248) 383762
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2014