Fy Ffrind Dylan Thomas
Mae鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth mewn cydweithrediad 芒 Pontio, yn falch o gyflwyno My Friend Dylan Thomas, g诺yl sy鈥檔 dathlu ymateb cerddorol i waith un o awduron amlycaf Cymru. Cynhelir yr 诺yl, a ddaw 芒 cherddorion rhyngwladol i Fangor, o ddydd Sadwrn 25 hyd at ddydd Iau, 30 Hydref ac mae鈥檙 tocynnau ar werth yn awr ar wefan Pontio: .

Daniel JonesCyswllt Dylan Thomas 芒 byd cerddoriaeth oedd ei gyfaill a鈥檌 gydweithiwr Daniel Jones (gweler y llun), cyfansoddwr y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer Under Milk Wood (Tan y Wenallt) ac awdur y cofiant ffraeth a chyfeillgar My Friend Dylan Thomas. Bydd yr 诺yl yn cyflwyno pedwar cyfansoddiad gan Daniel Jones, gan gynnwys ei Bedwaredd Symffoni er cof am yr awdur a鈥檙 llenor, a pherfformiadau cyntaf erioed o ddau waith lleisiol a ysgrifennwyd gan Jones a Thomas pan oeddent yn fechgyn ysgol yn Abertawe.
Dathlir y berthynas agos rhwng Jones a Thomas hefyd mewn arddangosfa o lawysgrifau ac arteffactau unigryw, a gyflwynir mewn cydweithrediad ag Archifau Prifysgol 精东传媒 a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth). Mae鈥檙 arddangosfa, sydd wedi鈥檌 lleoli y tu allan i Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ar agor i鈥檙 cyhoedd yn ystod oriau swyddfa drwy gydol yr 诺yl.

Elin Manahan ThomasBydd y gyfres yn cyflwyno nifer o weithiau comisiwn newydd, gan gynnwys gweithiau ar themau Dylan Thomas gan John Rea, Guto Pryderi Puw ac Andrew Lewis, i鈥檞 perfformio ynghyd 芒 gweithiau gan Elgar, Poulenc, Elisabeth Lutyens, William Mathias ac eraill. Mae鈥檙 perfformwyr yn cynnwys y soprano fyd-enwog Elin Manahan Thomas (gweler y llun), y pianydd jazz Huw Warren, y chwaraewr cello Thomas Carroll, Cantorion Prifysgol 精东传媒, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae鈥檙 诺yl hefyd yn cynnwys perfformiad theatrig un-dyn, sef Clown in the Moon.
鈥楻ydym ni鈥檔 falch iawn o gael y cyfle i hyrwyddo cerddoriaeth Daniel Jones, sy鈥檔 llawn deilwng o gael ei ail-ddarganfod,鈥� meddai鈥檙 Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ac arweinydd Cantorion Prifysgol 精东传媒. 鈥楳ae鈥檔 briodol hefyd mai Prifysgol 精东传媒, sef canolfan arweiniol ar gyfer ymchwil i gerddoriaeth Cymru yw鈥檙 lleoliad ar gyfer y dathliad hwn o gyfraniad awdur enwocaf Cymru.鈥�
Mae鈥檙 诺yl yn rhan o Dylan Thomas 100, g诺yl ryngwladol sy鈥檔 dathlu canmlwyddiant geni鈥檙 bardd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014