Gwenan Gibbard i Hela'r Hen Ganeuon
Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr. Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru.
Mae Gwenan Gibbard, sydd yn hanu o Bwllheli yn adnabyddus ym maes cerddoriaeth werin Cymru fel telynores a chantores, yn berfformwraig, cyfansoddwraig, ac fel beirniad a chyfeilydd ar lefel genedlaethol. Mae hi wedi teithio yn helaeth yn perfformio yn unigol ac fel rhan o brosiectau cerddorol ac wedi cyhoeddi tri albwm unigol gyda chwmni Sain : Y Gwenith Gwynnaf (2006), Sidan Glas (2010), Cerdd Dannau (2013) ac un EP: Y Gorwel Porffor (2015). Mae鈥檔 ffigwr amlwg yng Nghymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac yn arweinydd a hyfforddwraig C么r yr Heli sy鈥檔 arbenigo ar gerdd dant a chanu gwerin.
Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth), Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol 精东传媒 a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn. Nod a bwriad yr Ysgoloriaeth PhD (a noddir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru) fydd canolbwyntio ar agweddau penodol o fyd casglu alawon gwerin yn ail hanner yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif yng Nghymru.
鈥楻oeddwn yn falch fod yr Ysgoloriaeth wedi ennyn cymaint o ddiddordeb, a bod ymgeiswyr o safon mor uchel wedi ymgeisio. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cenedlaethol Archifau Mer锚d a Phyllis Kinney. Llongyfarchiadau i Gwenan Gibbard, edrychwn ymlaen yn fawr i gydweithio gyda hi yn ystod y blynyddoedd i ddod鈥� meddai Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywed yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mangor: 鈥楩el un o berfformwyr traddodiadol amlwg y genedl ac awdures cyfrol odidog ar fywyd Dora Herbert Jones, bydd yn fraint i ni yn Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol 精东传媒 gael cydweithio gyda'r delynores, Gwenan Gibbard. Rwy'n ffyddiog y bydd y dyfodol yn gyfnod hynod o gynhyrchiol ac yn gyfrwng i gryfhau'r cyswllt rhyngom a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chasgliad gwerthfawr Mer锚d a Phyllis.'
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cychwyn ym mis Hydref 2019, ac yn astudio yn rhan amser dros gyfnod o 6 mlynedd. Yn ogystal ag astudiaeth ysgolheigaidd, rhagwelir y bydd ffrwyth yr ymchwil yn sail i allbynnau cerddorol a gweithgaredd cyhoeddus ac yn gyfrwng i hyrwyddo Archif Mer锚d a Phyllis, a chyfraniad neilltuol y ddau i gerddoriaeth yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2019