Gwobr Goffa Duncan Tanner 2013
Martin Hanks (chwith)Graddiodd Martin Andrew Hanks 50, o Benmaenmawr, gydag MA mewn Hanes, gan dderbyn hefyd Wobr Duncan Tanner am y Traethawd Hir Gorau ar gyfer MA, yn dwyn y teitl 鈥�Can I Help You? The Early Life of Douglas Houghton鈥�.&苍产蝉辫;&苍产蝉辫;
Yn enedigol o Gaernarfon, mae Martin yn gyn-ddisgybl o Ysgol Syr Hugh Owen. Gadawodd yr ysgol gyda phum lefel-O TAG a fawr ddim arall ac, ar 么l gwasanaethu yn y Llun Awyr Brenhinol a鈥檙 Heddlu, sefydlodd fusnes yn Wrecsam. Am y pymtheng mlynedd nesaf, bu Martin a鈥檌 wraig yn cynnal eu cwmni, gan gyflogi gweithlu a oedd yn amrywio rhwng 60 a 100. Yn 2003, ar 么l gwerthu鈥檙 cwmni, dychwelodd Martin a鈥檌 deulu i鈥檙 ardal hon. Erbyn 2008, roedd yn chwilio am newid cyfeiriad, a chydag anogaeth ei wraig, cysylltodd 芒鈥檙 Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yma ym Mangor. Ymhen tair blynedd, graddiodd Martin gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes gydag Archaeoleg, a pharhau鈥檔 union wedyn i ddilyn y cwrs Hanes MA.
Ac yntau wrth ei fodd gyda鈥檌 wobr, dywedodd Martin, 鈥淢ae鈥檔 deimlad anhygoel fy mod wedi ennill y wobr hon. Roedd yn syndod mawr imi pan gefais wybod. Roedd y gr诺p bach o Haneswyr Modern y b没m yn astudio gyda hwy i gyd yn ddawnus ac yn ddyfal wrth eu gwaith. Roedd haneswyr a oedd yn astudio cyfnodau eraill hwythau wedi gweithio鈥檔 galed ar rai projectau gwirioneddol ddiddorol. Felly, syndod o鈥檙 mwyaf oedd ennill y wobr hon oddi mewn i鈥檙 gr诺p hwnnw. Cwrddais 芒 Duncan Tanner yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig ym Mangor, ac roeddwn yn astudio yma pan fu farw, felly mae ennill y wobr hon yn anrhydedd arbennig o deimladwy ac ystyrlon.鈥�
Am ei gyfnod ym Mangor, meddai Martin, 鈥淏u profiad y pedair blynedd ddiwethaf, yn ei grynswth, yn wych. Mae鈥檙 ffrindiau rwyf wedi鈥檜 gwneud, 芒 myfyrwyr eraill a hefyd 芒 staff academaidd, wedi cyfoethogi fy mywyd. Mae鈥檙 profiad dysgu yn bleserus ac yn gwneud i rywun awchu am fwy, yn enwedig yn y Brifysgol hon. Rwy鈥檔 gobeithio aros yma am amser hir eto. Mae鈥檙 seremoni raddio hon, ynghyd 芒鈥檙 seremoni raddio pan gefais fy ngradd BA, ymysg uchafbwyntiau fy amser ym Mangor.鈥�
Yngl欧n 芒鈥檌 ddyfodol, meddai, 鈥淩wyf wrthi ar hyn o bryd yn astudio yma ar gyfer fy PhD, gan ymchwilio i 鈥楨ffaith mewnfudwyr adeg y rhyfel ar Ddiwylliant a Hunaniaeth y Cymry yn ystod yr Ail Ryfel Byd鈥�. Rwy鈥檔 gobeithio cwblhau鈥檙 cwrs hwn a chael swydd yn y byd academaidd.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013