Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr
Dr Guto Puw (chwith) yn derbyn y Wobr gan Dr Jeremy Huw WilliamsCyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol 精东传媒, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, a Chyfarwyddwr Artistig yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a鈥檙 Sir.
Dywed Guto: 鈥淩oedd yn fraint o鈥檙 mwyaf derbyn y wobr hon ac yn deimlad mor braf sylweddoli bod fy nghyfoedion o fewn y byd cerddorol yn gwerthfawrogi fy ymdrechion. Rwy鈥檔 teimlo mor lwcus fy mod yn medru treulio gymaint o鈥檓 hamser yn gwneud yr hyn rwy鈥檔 ymddiddori gymaint ynddo, sef cerddoriaeth 鈥� boed fel cyfansoddwr, darlithydd neu yn rhan o d卯m gweithgar G诺yl Gerdd Newydd 精东传媒. Yn sicr byddaf yn trysori鈥檙 wobr hon am flynyddoedd i ddod.鈥�
Ar ran y Gymdeithas dywed Dr Jeremy Huw Williams, 鈥楩el un sydd wedi comisiynu nifer o weithiau newydd gan Guto, ac wedi perfformio sawl tro yng Ng诺yl Gerdd Newydd 精东传媒, bu鈥檔 fraint i mi gyflwyno Gwobr Syr Geraint Evans 2013 iddo ar ran Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru鈥�.
Dros y blynyddoedd gwnaeth Guto ei farc yn genedlaethol a rhyngwladol fel un o brif gyfansoddwyr ei genhedlaeth: fe鈥檌 penodwyd fel y Cyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2006 a derbyniodd ei Goncerto ar gyfer Obo Wobr y Cyfansoddwr Prydeinig yn 2007. Cafodd amryw o鈥檌 gyfansoddiadau eu cynnwys mewn gwyliau cenedlaethol ynghyd a chyngherddau dramor yn yr Unol Daleithau a鈥檙 Eidal. Eleni fe berfformiodd Cantorion Prifysgol 精东传媒 ei Dair Cerdd Dylan Thomas yn ystod yr 诺yl 鈥楳y Friend Dylan Thomas鈥� ym Mhrifysgol 精东传媒, ac yn gynharach yn y flwyddyn rhyddhawyd y CD Reservoirs sy鈥檔 cynnwys ei gyfansoddiadau cerddorfaol ar y label Signum Records. Ar hyn o bryd mae Guto鈥檔 gweithio ar ei gomisiwn operatig cyntaf Y T诺r (comisiwn Theatr Gerdd Cymru) ar gyfer ei pherfformio gan Theatr Gerdd Cymru yn Pontio yn ystod gwanwyn 2017.
Sefydlwyd Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru er mwyn hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig yn ogystal 芒 chyfansoddwyr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.
Mae鈥檙 Gymdeithas hefyd yn annog lefel uchel o ymarfer perfformio gan feithrin ymwybyddiaeth a fydd yn arsylwi ar faterion proffesiynol yng Nghymru; i鈥檙 perwyl hwn bydd yn annog perfformwyr a cherddoregwyr i ymddiddori yng ngwaith y Gymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014