Gwobr yn Bar Uno yn ystod Serendipity!
Roedd y digwyddiad Serendipitiy 2 diweddar yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn llwyddiant mawr, a bu i un myfyriwr adael gyda gwobr gwerth chweil!
Chelsie McCluskey (dde) a'i ffrind yn mwynhau pryd o fwyd yn Bar UnoDrwy gofrestru ar dudalen Facebook Bar Uno, dewiswyd enw Chelsie McCluskey 鈥榓llan o het鈥� ac enillodd bryd am ddim i 2 yn Bar Uno. Roedd Chelsie, sy鈥檔 fyfyriwr Bioleg y M么r ar ei blwyddyn gyntaf, wrth ei bodd o gael ennill y wobr ac mae鈥檔 edrych ymlaen at fwyta yno gyda鈥檌 ffrindiau. Fel myfyriwr ar Safle Ffriddoedd, mae Chelsie鈥檔 cyfaddef iddi fod yn ymwelydd eithaf rheolaidd 芒 Bar Uno ac mae鈥檔 mwynhau鈥檙 dewisiadau ar y fwydlen newydd.
Meddai Chelsie "Dwi wir yn mwynhau鈥檙 amrywiaeth o brydau ar y fwydlen newydd. Mae鈥檙 prisiau鈥檔 deg iawn i fyfyrwyr ac mae鈥檔 cynnig amrywiaeth eang o snaciau a phrydau cartref iach. Roedd y cynigion yn ystod Serendipity yn arbennig o dda, a dwi鈥檔 edrych ymlaen at ddigwyddiadau arbennig yn y dyfodol!"
Gellwch weld bwydlenni newydd Bar Uno a Bwyd@精东传媒 ar-lein.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011