Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Dr Stuart Beattie y tu allan i adeilad yr Ysgol.Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu ) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 精东传媒 ac aelod o鈥檙 Sefydliad Ymarfer El卯t, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a鈥檌 wasanaeth i BASES a鈥檙 gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
BASES yw鈥檙 prif gorff proffesiynol dros wyddorau chwaraeon ac ymarfer yn y DU.
Dim ond criw dethol o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth BASES ers sefydlu鈥檙 corff yn 1984. Dyfernir Cymrodoriaethau i鈥檙 aelodau hynny sydd wedi dangos angerdd ac ymrwymiad i BASES a gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Gall y rhai sy鈥檔 derbyn Cymrodoriaeth ddefnyddio FBASES ar 么l eu henwau a bod yn arweinwyr a llysgenhadon dros y Gymdeithas.
Bydd y cyrhaeddiad yn cael ei nodi yn ystod Cinio Cynhadledd 2016 ar nos Fawrth 29 Tachwedd yn yr East Midlands Conference Centre.
Meddai鈥檙 Athro Nicky Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: 鈥淢ae Stuart yn llwyr haeddu鈥檙 Gymrodoriaeth hon. Mae wedi gwneud cyfraniad gwych i wyddorau chwaraeon ac ymarfer drwy ei waith ymchwil ei hun a thrwy ei gefnogaeth ac anogaeth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd.鈥�
Meddai Dr Keith Tolfrey, Cadeirydd BASES: 鈥淩wyf yn falch o weld cymaint o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau neilltuol i BASES a鈥檙 gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae鈥檙 gwobrau wedi eu hennill drwy waith caled ac mae pob un yn eu haeddu yn llwyr.鈥�
Yn gynharach eleni, trefnodd Dr Beattie Gynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BASES. Gweler (dolen i鈥檙 stori). Mae鈥檔 ymuno 芒鈥檙 Athro Lew Hardy o鈥檙 Ysgol a sawl cyn-aelod o staff yr Ysgol sydd hefyd yn Gymrodorion BASES. Mae rhestr lawn ar gael yma: www.bases.org.uk/Fellowships
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016